Mae cerbydau Llywodraeth Cymru wedi gwneud cannoedd o deithiau er mwyn cludo dogfennau yn unig dros y tair blynedd diwethaf, yn ôl Cais Rhyddid Gwybodaeth gan y Ceidwadwyr Cymreig.

Dywed bod 242 o deithiau wedi cael eu gwneud heb weinidog yn bresennol rhwng Ionawr 2017 ac Ionawr 2020, gyda 151 o’r rhain yn 2019-20.

Yn ôl y Ceidwadwyr Cymreig, mae cyflogi 12 o yrwyr i yrru 12 cerbyd gweinidogol wedi costio £453,369.83 rhwng 2019-20, gyda £19,847 yn cael ei wario ar gynnal a chadw dros yr un cyfnod.

“Dro ar ôl tro, mae’r Llywodraeth Lafur yng Nghymru wedi defnyddio arian trethdalwyr Cymreig er mwyn ariannu pethau diangen,” meddai Gweinidog Gwydnwch ac Effeithlonrwydd y Llywodraeth Cysgodol y Ceidwadwyr Cymreig, Angela Burns.

“Os yw mwy na £450,000 yn gallu cael ei wario ar gerbydau gweinidogol mewn blwyddyn, dw i’n ofni meddwl faint fydd yn cael ei wastraffu flwyddyn nesaf.”

Llywodraeth Cymru’n “sicrhau gwerth am arian i’r trethdalwr”

Wrth ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru wrth golwg360: “Mae ceir y Llywodraeth weithiau’n cael eu defnyddio i gludo dogfennau cyfrinachol sydd angen sylw ar frys.

“Rydym yn parhau i adolygu technolegau eraill er mwyn sicrhau gwerth am arian i’r trethdalwr, a dyna pam rydym yn defnyddio ceir hybrid a thrydanol fel rhan o’n gwasanaeth ceir.”