Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi ei beirniadu am gymharu murlun Cofiwch Dryweryn i hysbyseb amhriodol a graffiti asgell dde eithafol.

Daw hyn wrth i’r cyngor gyhoeddi y gall murlun Cofiwch Dryweryn a baentiwyd ar wal eiddo preifat yn Nantyffyllon, Maesteg y llynedd, aros os yw perchennog y tŷ yn gwneud cais cynllunio sy’n caniatáu hysbysebu.

Fis diwethaf derbyniodd perchnogion lythyr gan y cyngor yn rhybuddio achos llys yn eu herbyn on i bai byddai’r wal yn cael ei ail-beintio o fewn tair wythnos.

Roedd  y cyngor yn honni fod y murlun yn berygl i yrwyr.

“Hynod ansensitif

Mae cynghorydd lleol wedi dweud wrth Golwg360 fod yr iaith a ddefnyddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn “hynod ansensitif”.

“Mae cymharu’r gwaith celf arwyddocaol hwn gyda graffiti asgell dde eithafol a hysbyseb amhriodol yn amarch llwyr”, meddai’r Cynghorydd Tim Thomas, arweinydd grŵp Plaid Cymru ar y cyngor.

“Roeddwn yn siomedig iawn yn y lle cyntaf fod y cyngor wedi ceisio awgrymu bod y murlun yn achosi damweiniau ffordd, dadl nad oedd yn dal dwr o gwbl.

“Rwy nawr yn galw ar Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i ymddiheuro i bobol Cymru am y geiriau ansensitif yma.”

Yn y datganiad gan y cyngor mae’r Cynghorwr Richard Young, sy’n Aelod Cabinet dros Gymunedau, yn cyfeirio at ddau furlun dadleuol arall yn y dref.

“Nid oes cymaint â hynny o amser ers i’r cyngor gyrraedd penawdau newyddion cenedlaethol am hysbyseb golchi ceir yma oedd yn gynnwys delwedd amhriodol o fenyw arno, tra mae’n siŵr fod preswylwyr yn cofio delweddau asgell dde eithafol gafodd ei baentio ar ochr tŷ ym Maesteg rhai blynyddoedd yn ôl”, meddai Richard Young ar ran y cyngor.

“Efallai byddai’r pethau yma yn dal i fod yno nawr on i bai bod rheolau cynllunio ar waith i ddelio â nhw, ar y llaw arall does dim modd i chi ddewis a dethol pryd mae’r rheolau yma yn siwtio chi.”

Ychwanegodd Richard Young fod Tryweryn yn rhan bwysig iawn o ddiwylliant a hanes Cymreig.

“Dylid ei gofio, ond nid mewn modd sy’n torri’r gyfraith ac yn gorfodi’r awdurdod cynllunio lleol i orfod gweithredu fel hyn.

“Bydd ein tîm cynllunio yn cysylltu â pherchnogion y tŷ i drafod hyn ymhellach.”