Cyngor Sir Powys yw’r cyngor sir ddiweddaraf i roi caniatâd i fusnesau ddefnyddio palmentydd a rhannau o’r ffordd i’w helpu i ailagor yn ddiogel yn sgil y coronafeirws.

Mae cynghorau eraill yng Nghymru â chynlluniau tebyg – mae Cyngor Dinas Caerdydd wedi cau stryd y Castell i greu ardal fwyta awyr agored, tra mae Cyngor Sir Ceredigion wedi cau strydoedd rhai o drefi’r sir i greu parthau diogel.

Bydd rhaid i fusnesau sy’n dymuno defnyddio palmentydd a rhannau o’r ffordd ym Mhowys wneud cais i’r am ganiatâd.

‘Pob tref yn wahanol’

Eglurodd y Cynghorydd Heulwen Hulme, yr Aelod Cabinet dros Briffyrdd ym Mhowys, bod pob tref yn wahanol, gyda chynllun pwrpasol i ateb anghenion gwahanol fusnesau.

“Does dim ateb cyflym o ran gwella o’r argyfwng Covid-19, bydd cadw pellter cymdeithasol a’r angen am fesurau amddiffyn personol gyda ni am gryn amser”, meddai.

“Mae ardaloedd agored yng nghanol ein trefi yn gyfyngedig, ac er bod rhai busnesau’n ddigon ffodus i fod â lle eu hunain, ni fydd hynny’n wir am lawer ohonynt.

“Dychmygwch gaffis stryd fetropolitan, mannau cosmopolitan a chrefftwyr, marchnadoedd awyr agored, man werthwyr annibynnol ffyniannus, a lleoedd poblogaidd i fwyta ac yfed.

“Bydd ail-greu ac ail-ddychmygu ein trefi fel hyn yn eu gwneud yn fwy deniadol yn weledol ac yn cynyddu nifer y siopwyr, preswylwyr, ymwelwyr a thwristiaid, gan eu gwneud, yn eu tro, yn fannau bywiog a ffyniannus ar gyfer busnes ac i gymdeithasu.”