Bydd ardal fwyta awyr agored Caerdydd ar Stryd y Castell yn agor i’r cyhoedd ddydd Gwener 31 Gorffennaf.

Mae’r ardal fwyta – o flaen Castell Caerdydd – yn rhan o ymdrechion i gynyddu’r mannau awyr agored yn y ddinas y gall caffis a bariau eu defnyddio wrth iddynt geisio adfer o effeithiau pandemig y coronafeirws.

Bydd yr ardal newydd yn galluogi busnesau i fasnachu mewn lleoliadau diogel awyr agored sy’n caniatáu cadw pellter cymdeithasol. Bydd ar agor o 10am tan 10pm saith diwrnod yr wythnos gydag archebion olaf am 8.30pm.

Bydd ymwelwyr yn gallu archebu bwyd a diodydd i’w danfon o ddetholiad eang o fwytai a chaffis gan ddefnyddio cod QR neu wefan cwmni yoello – platfform talu symudol. Mae’r cwmni o Gaerdydd wedi bod yn gweithio’n agos gydag awdurdodau lleol i helpu busnesau i ailagor.

Dywedodd y Cynghorydd Sarah Merry, Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd:

“Roedden ni am greu man deniadol y bydd preswylwyr ac ymwelwyr yn hoffi ei ddefnyddio ac un a all helpu busnesau lletygarwch lleol i ddechrau ar eu busnes. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl fwynhau’r lle newydd a fydd yn cynnig golwg drawiadol i gwsmeriaid o’n castell eiconig yng nghanol y ddinas. Rydym yn gobeithio y bydd yn chwarae rhan bwysig yn helpu busnesau yng Nghaerdydd i oroesi canlyniadau’r pandemig.”