Mae pôl opiniwn newydd sy’n dangos bod 53% o gefnogaeth i annibyniaeth wedi “fwy neu lai” cadarnhau bod pobol yr Alban o blaid gadael y Deyrnas Unedig, yn ôl arbenigwr gwleidyddol.

Darganfu pôl YouGov y byddai 53% o etholwyr y wlad, heb gyfri’r rheini sydd “ddim yn gwybod”, yn pleidleisio o blaid annibyniaeth.

Dyma’r pedwerydd arolwg yn ganlynol sydd wedi rhoi’r bleidlais Ie o flaen Na ac mae’n dangos y lefel uchaf o gefnogaeth dros annibyniaeth i’r Alban sydd wedi ei gofnodi gan YouGov.

Ysgrifennodd Yr Athro Syr John Curtice, o Brifysgol Strathclyde, yn ei flog: “Mae cefnogaeth dros annibyniaeth ym mhôl opiniwn heddiw (gan eithrio’r rheini sydd ddim yn gwybod) ar 53%.

“Mae hyn yn cymharu â ffigwr 51% y tro diwethaf gafodd y cwestiwn ei ofyn ym mis Ionawr, a chyfartaledd o 47% yn y tri pôl opiniwn gafodd eu cynnal yn 2019.”

Dywed dirprwy arweinydd yr SNP, Keith Brown, fod “momentwm na ellir ei atal” tu ôl i gynnal ail refferendwm.

“Mae nawr yn glir bod mwyafrif yn yr Alban eisiau bod yn wlad annibynnol,” meddai.

52% o bobol yn credu bod yr Alban “ar y trywydd iawn”

Holodd YouGov 1,142 o oedolion Albanaidd 16 oed neu hyn gan ffeindio bod 52% o bleidleiswyr yn credu bod yr Alban “ar y trywydd iawn”, sy’n gynnydd o 20% ers y tro diwethaf i’r cwestiwn gael ei ofyn flwyddyn yn ôl.

A dim ond 26% oedd yn credu bod y wlad ar y trywydd anghywir, o’i gymharu â 41% fis Awst diwethaf.

Mae Prif Weinidog y Deyrnas Unedig Boris Johnson ac arweinydd y blaid Lafur Syr Keir Starmer wedi dweud eu bod yn erbyn cynnal refferendwm arall yn y dyfodol agos.

Dywed Stryd Downing na fydd Boris Johnson yn caniatáu pleidlais arall ar annibyniaeth hyd yn oed os bydd yr SNP yn ennill mwyafrif yn etholiad Holyrood mis Mai nesaf.