Mae James Hook, cyn-faswr y Gweilch, wedi’i benodi’n hyfforddwr ymosod timau rygbi Prifysgol Abertawe.
Daw’r cyhoeddiad ddiwrnod ar ôl i’r Gweilch gyhoeddi ei fod wedi’i benodi’n hyfforddwr cicio’r rhanbarth.
Fe wnaeth e ymddeol o’r cae ar ddiwedd y tymor diwethaf, a hynny ar ôl chwarae mewn 149 o gemau.
Mae’n ail ar restr prif sgorwyr y rhanbarth gydag 841, gan sgorio 19 o geisiau a throsi 290 o giciau.
Treuliodd e’r tymor diwethaf yn dysgu ei grefft fel hyfforddwr gyda thîm dan 18 y rhanbarth, ac yn helpu cicwyr ifanc y brif garfan.
Mae’r penodiad yn rhan o bartneriaeth rhwng y brifysgol a’r rhanbarth.
Bydd yn ymuno ag un o’i gydweithwyr gyda’r Gweilch, Hugh Gustafson, sef prif hyfforddwr presennol y Brifysgol, fel rhan o’r bartneriaeth.
‘Testun cyffro’
“Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda’r tîm ym Mhrifysgol Abertawe”, meddai James Hook.
“Roeddwn wrth fy modd yn gweithio gyda thîm dan 18 oed y Gweilch y tymor diwethaf ac mae cael y cyfle nawr i weithio gyda’r Brifysgol drwy’r bartneriaeth â’r Gweilch yn destun cyffro.
“Bydd ychydig yn wahanol i’m rôl gyda’r Gweilch ond gobeithio y gallaf drosglwyddo fy ngwybodaeth fel hyfforddwr olwyr, a gweithio i wella dyfnder ac ansawdd y chwaraewyr sy’n rhan o lwybr y Gweilch.”
Mae gan glwb rygbi’r Brifysgol bum tîm dynion a dau dîm menywod sy’n cystadlu yng nghystadlaethau Chwaraeon Prifysgolion a Cholegau Prydain (BUCS).
Ymhlith cyn-fyfyrwyr y brifysgol mae Alun Wyn Jones a Siwan Lillicrap, sydd hefyd yn Bennaeth Rygbi yn y Brifysgol.
“Mae’n gyffrous iawn bod rhywun o brofiad ac arbenigedd James yn ymuno â ni fel hyfforddwr ymosodol eleni”, meddai Siwan Lillicrap.
“Mae wedi chwarae ar y lefel uchaf yn ystod ei yrfa a bydd yn fentor gwych i’n myfyrwyr i gyd.
“Bydd yn mynd â ni gam ymhellach, gan ddangos llwyddiant ein partneriaeth â’r Gweilch.”