Mae’n bosib y bydd newidiadau i’r broses o benderfynu graddau Safon Uwch disgyblion yn cael eu hystyried yng Nghymru – a hynny ar yr awr olaf – llai na 24 awr cyn y byddan nhw’n cael eu cyhoeddi yfory.
Mae’n debyg fod gweinidogion Llywodraeth Cymru wedi bod yn trafod gyda chyrff arholi ar ôl newidiadau i’r system raddio mewn rhannau eraill o’r DU.
Cafodd Llywodraeth yr Alban eu beirniadu am system graddau arholiadau oedd yn ei lle yn sgil y coronafeirws – bellach mae miloedd o ddisgyblion yno wedi cael gwybod bydden nhw’n cael canlyniadau uwch ar ôl i lywodraeth yr Alban gwympo ar ei bai.
Mae disgyblion yn Lloegr wedi cael gwybod na fydd eu canlyniadau terfynol yn is na chanlyniadau eu harholiadau ffug.
Mae disgwyl rhagor o fanylion am unrhyw newidiadau yn ddiweddarach ddydd Mercher (Awst 12).
Bydd myfyrwyr Safon Uwch ac Uwch Gyfrannol yng Nghymru’n derbyn eu canlyniadau yfory (Awst 13), tra bydd myfyrwyr TGAU yn eu derbyn yr wythnos nesaf, ar Awst 20.