Mae James Hook, cyn-faswr y Gweilch, wedi’i benodi’n hyfforddwr cicio’r rhanbarth.
Fe wnaeth e ymddeol o’r cae ar ddiwedd y tymor diwethaf, a hynny ar ôl chwarae mewn 149 o gemau.
Mae’n ail ar restr prif sgorwyr y rhanbarth gydag 841, gan sgorio 19 o geisiau a throsi 290 o giciau.
Treuliodd e’r tymor diwethaf yn dysgu ei grefft fel hyfforddwr gyda thîm dan 18 y rhanbarth, ac yn helpu cicwyr ifanc y brif garfan.
“Dw i bob amser yn cofio Neil Jenkins yn mynd â fi dan ei adain fel crwt ifanc, a pha mor bwysig oedd hynny i fi,” meddai.
“Roedd y wybodaeth wnaeth e ei rhoi i fi’n amhrisiadwy ac yn rhywbeth dw i eisiau ei wneud fel hyfforddwr.
“Dw i’n dod i ddiwedd fy Lefel 3 mewn hyfforddi, oedd wedi cael ei ohirio oherwydd y gwarchae, ond mae bron iawn ar ben ac fe fydd yn amlwg yn gymorth mawr i fi wrth fynd ymlaen yn fy ngyrfa’n hyfforddi.”