Mae Ken Owens wedi’i benodi’n gapten y Scarlets am y seithfed tymor yn olynol.
Mae’r bachwr wedi arwain y Scarlets ers 2013 ac wedi torri’r record am y nifer fwyaf o dymhorau’n olynol wrth y llyw – roedd Phil Bennett yn gapten ar y clwb am chwe thymor rhwng 1973 a 1979.
Bydd Steff Hughes, a fu’n gapten yn absenoldeb Ken Owens y tymor diwethaf, yn is-gapten eto, tra bydd Jonathan Davies, James Davies, Werner Kruger, Jake Ball, Dan Jones a Josh Macleod yn ffurfio gweddill y grŵp arwain.
Chwaraeodd Ken Owens i’r Scarlets am y tro cyntaf yn erbyn Northampton Saints yn 2006 ac mae’n agosáu at 250 ymddangosiad i’r rhanbarth.
Mae ganddo 77 o gapiau i Gymru, ac 2 gap i’r Llewod.
‘Anrhydedd enfawr’
“Mae hi bob amser yn anrhydedd enfawr i arwain y Scarlets a dwi’n falch iawn o fynd heibio’r record sydd wedi ei osod gan Phil Bennett, eicon mawr i ni yn y Scarlets.
“Rwy’n ffodus o gael grŵp arwain cryf ochr yn ochr â mi sydd yn brofiadol iawn.
“Mae’r bechgyn yn gyffrous am ddychwelyd i chwarae yn erbyn Gleision Caerdydd yr wythnos nesaf a gorffen y tymor hwn ar nodyn uchel cyn mynd ymlaen i’r ymgyrch nesaf.”
‘Arweinydd o’r radd flaenaf’
Mae Glenn Delaney, prif hyfforddwr newydd y Scarlets, wedi disgrifio Ken Owens fel “arweinydd o’r radd flaenaf”.
“Mae’n gweithio’n anhygoel o galed oddi ar y cae, ac mae cysylltiad agos rhyngddo ef â’r chwaraewyr ac â’r clwb,” meddai.
“Yn amlwg, mae gan Ken lwyth gwaith enfawr ac roedd rhaid ystyried hynny.
“Byddai wedi bod yn hawdd iawn i mi ddweud wrth ‘byswn i wrth fy modd i ti fod yn gapten’ a byddai hynny efallai wedi rhoi gormod o bwysau arno.
“Siaradom am y dewis gyda’n gilydd, a dywedodd Ken ei fod yn barod i wneud beth bynnag roeddwn am iddo wneud.
“Unwaith dywedodd hynny, roedd yn benderfyniad hawdd iawn i mi.”
Ailddechrau
Cafodd y Pro14 ei ohirio ym mis Mawrth yn sgil y pandemig, ond bydd yn ailddechrau’r penwythnos nesaf mewn stadiymau gwag.
Fe fydd y Scarlets yn wynebu’r Gleision tra bydd y Gweilch yn herio’r Dreigiau ar y penwythnos agoriadol ar Awst 22 a 23 a’r tymor yn cael ei gwblhau dros gyfnod o bedair wythnos, gyda’r rownd derfynol ar Fedi 12.
Bydd gemau darbi traddodiadol yn cael eu cynnal ar ddau benwythnos olaf mis Awst yng Nghymru, Yr Alban, Iwerddon a’r Eidal.