Bydd merched o Gymru’n chwarae i Western Storm, tîm rhanbarthol gorllewin Lloegr, mewn cystadleuaeth arbennig y tymor hwn.

Bydd wyth tîm yn cystadlu am Dlws Rachael Heyhoe Flint, cystadleuaeth 50 pelawd sydd wedi’i threfnu ar gyfer y tymor byr sydd wedi dechrau yn dilyn ymlediad y coronafeirws.

Bydd yr wyth tîm yn chwarae mewn dau grŵp o bedwar, a bydd y gystadleuaeth yn para mis, gyda’r ffeinal rhwng y timau sy’n gorffen ar y brig yn cael ei chynnal ar Fedi 26.

Bydd trefn y gemau’n cael ei chyhoeddi yfory (dydd Mercher, Awst 12).

Y gogledd: Central Sparks, Lightning, Northern Diamonds, Thunder

Y de: South East Stars, Southern Vipers, Sunrisers, Western Storm