Mae tîm criced Morgannwg wedi llwyddo i sicrhau gêm gyfartal oddi cartref yn erbyn Swydd Gaerwrangon yn Nhlws Bob Willis.
Roedd yn ddiwrnod i’w gofio i Chris Cooke, wicedwr a chapten Morgannwg, wrth iddo waredu naw o fatwyr yn y gêm, gan efelychu record Colin Metson a Mark Wallace i’r sir.
Ar ôl hynny, roedd gan ei dîm nod o 358 mewn 51 o belawdau i ennill y gêm, ond fe fydd Swydd Gaerwrangon yn siomedig na wnaethon nhw gau’r batiad ynghynt, wrth redeg allan o belawdau i gipio’r fuddugoliaeth.
Ar un adeg, roedd Morgannwg yn bump am dair wrth ddechrau cwrso’r nod, ond roedd y 74 oddi ar fat y capten yn amhrisiadwy, er iddo golli ei wiced gyda llai na thair pelawd yn weddill o’r gêm.
Fe fydd Jake Libby, cyn-fyfyriwr Prifysgolion Caerdydd yr MCC, yn cofio’r gêm hon am y rhesymau cywir hefyd, ar ôl sicrhau ei berfformiadau gorau erioed gyda’r bat a’r bêl i’r tîm cartref, ac mae e bellach wedi sgorio 330 rediadau mewn pedwar batiad ar ôl symud o Swydd Nottingham y tymor hwn.
Tarodd Billy Root ganred yn y batiad cyntaf yn dilyn perfformiad siomedig eto gan y tîm â’r bat, ac roedd e wrthi eto yn yr ail fatiad wrth chwarae’n amddiffynnol i gau’r gêm allan.
Y diwrnod olaf
Roedd Swydd Gaerwrangon yn 98 am ddwy yn eu hail fatiad, oedd yn golygu bod ganddyn nhw fantais o 179.
Tarodd Daryl Mitchell 94 tua’r brig cyn iddo gwrso pelen gan y troellwr Kieran Bull i lawr y llain a chael ei stympio gan Cooke. Daeth ei fatiad i ben gyda deg pedwar oddi ar 163 o belenni.
Roedd e wedi ychwanegu 85 at y cyfanswm ar gyfer y drydedd wiced gyda Tom Fell, ond fe wnaeth Fell gwympo pan gafodd ei ddal yn isel gan Cooke.
Collodd y tîm cartref Brett D’Oliveira (22) a Riki Wessels heb sgorio cyn cinio, wrth i Cooke a Graham Wagg gyfuno ddwywaith wrth i’r wicedwr efelychu record y sir am nifer y daliadau a stympiadau mewn gêm.
Tarodd Ben Cox 33 oddi ar 23 o belenni wedyn, a Jack Haynes 30 oddi ar 41 o belenni cyn i Swydd Gaerwrangon gau’r batiad ar 276 am chwech.
Mae Michael Hogan un wiced yn brin o hyd o’r garreg filltir o 600 o wicedi dosbarth cyntaf yn ei yrfa, ar ôl methu â chipio’r un yn yr ail fatiad.
Cwrso
Er mor annhebygol oedd Morgnnwg o fynd am y nod mewn cyn lleied o amser, roedd eu batiad mewn deilchion yn gynnar iawn wrth Joe Leach daro coes Nick Selman o flaen y wiced oddi ar ei ail belen.
Ac fe darodd e yn yr un modd eto i waredu Charlie Hemphrey am un.
Ergydiodd Kiran Carlson y bêl i’r wicedwr Ben Cox oddi ar fowlio Dillon Pennington i adael Morgannwg mewn dyfroedd dyfnion.
Ond daeth Billy Root a Chris Cooke ynghyd i ychwanegu 82 mewn 22 o belawdau i achub rywfaint ar embaras Morgannwg, cyn i Root gael ei ddal gan Cox i lawr ochr y goes oddi ar fowlio Pennington am 34.
Daeth hanner canred Cooke wedyn oddi ar 78 o belenni, a hynny gyda’i ddegfed ergyd am bedwar.
Ond collodd Morgannwg wiced arall pan darodd Charlie Morris goes Tom Cullen o flaen y wiced a bryd hynny, roedd 12.5 o belawdau’n weddill.
Cipiodd Libby ei wiced gyntaf i Swydd Gaerwrangon wrth daro coes Dan Douthwaite o flaen y wiced heb fod wedi sgorio, ac fe ddaeth ei ail pan fowliodd e Chris Cooke yn hwyr yn y gêm.
Gweddill y gêm
Ar ôl galw’n gywir a phenderfynu batio, sgoriodd Swydd Gaerwrangon 455 am wyth oddi ar yr uchafswm o 120 o belawdau cyn i’r batiad ddod i ben.
Sgoriodd Jake Libby 184 a Brett D’Oliveira 174 wrth adeiladu record o bartneriaeth o 318, gan fynd y tu hwnt i record Graeme Hick a Tim Curtis 34 o flynyddoedd yn ôl yng Nghastell-nedd.
Tarodd Billy Root 118 a Graham Wagg 54 wrth i Forgannwg ymateb gyda sgôr batiad cyntaf o 374 i gyd allan, a chael a chael oedd hi i’r sir Gymreig wedyn am weddill y gêm.
Bydd gêm nesaf Morgannwg yn dechrau ddydd Sadwrn (Awst 15), wrth iddyn nhw groesawu Swydd Gaerloyw i Gaerdydd.