Mae Mark Williams allan o Bencampwriaeth Snwcer y Byd ar ôl colli o 13-10 yn erbyn Ronnie O’Sullivan yn y Crucible yn Sheffield.

Roedd y Cymro ar y blaen o chwe ffrâm i ddwy dros nos, ond fe darodd y Sais yn ôl yn gryf i guro’r Cymro sydd wedi ennill y gystadleuaeth dair gwaith yn y gorffennol.

Mae’n golygu nad oes yna’r un Cymro ar ôl yn y gystadleuaeth bellach.

Ar yr ail ddiwrnod, enillodd y Sais bedair ffrâm yn olynol, gan gynnwys rhediad o 112, i unioni’r sgôr (8-8).

Cael a chael oedd hi wedyn ac ar ôl mynd ar y blaen o 11-10, sgoriodd Ronnie O’Sullivan 133.

Fe ddaliodd ei afael ar yr ornest wedyn, gan gynnwys ffrâm lle bu’n rhaid ailosod y bêl ddu, ac fe fydd e’n herio Mark Selby yn y rownd gyn-derfynol.

Mae Mark Williams bellach wedi colli bum gwaith yn erbyn y Sais y Crucible.