Mae tîm criced Morgannwg wedi cael gwybod trefn eu gemau yng nghystadleuaeth ugain pelawd y Vitality Blast, sy’n dechrau ar Awst 27.

Yn yr un modd â Thlws Bob Willis, bydd gemau’n cael eu cynnal fesul rhanbarth, gyda thri o grwpiau o chwe thîm yr un.

Bydd pob tîm yn chwarae ei gilydd ddwywaith, gartref ac oddi cartref, gyda rownd wyth olaf ar Hydref 1, a Diwrnod y Ffeinals yn Egbaston ar Hydref 3, i ddechrau am 11yb.

Bydd yr holl gemau’n cael eu cynnal y tu ôl i ddrysau caëedig yn sgil y coronafeirws, ond bydd yr holl gemau’n fyw ar y radio a rhai yn cael eu darlledu’n fyw ar Sky, gan gynnwys un o gemau rownd yr wyth olaf a Diwrnod y Ffeinals.

Bydd gemau nad ydyn nhw’n cael eu darlledu ar gael i’w gwylio drwy wefannau’r siroedd.

Fe fydd diwrnod wrth gefn ar gyfer pob gêm yn y gystadleuaeth.

Gemau Morgannwg

Bdd ymgyrch Morgannwg yn dechrau gartref ar Awst 27, wrth iddyn nhw groesawu Swydd Gaerwrangon i Gaerdydd am 6.30yh.

Bydd eu gêm gyntaf oddi cartref ym Mryste yn erbyn Swydd Gaerloyw ar Awst 29, i ddechrau am 2yp.

Dyma gemau Morgannwg yn llawn:

Awst 27 – Morgannwg v Swydd Gaerwrangon, Caerdydd, 6.30

Awst 29 – Swydd Gaerloyw v Morgannwg, Bryste, 2.00

Awst 30 – Morgannwg v Birmingham Bears, Caerdydd, 2.00

Medi 1 – Gwlad yr Haf v Morgannwg, Taunton, 6.30

Medi 3 – Swydd Northampton v Morgannwg, lleoliad ac amser i’w cadarnhau

Medi 11 – Birmingham Bears v Morgannwg, Edgbaston, 6.30

Medi 13 – Morgannwg v Swydd Northampton, Caerdydd, 2.00

Medi 16 – Morgannwg v Gwlad yr Haf, Caerdydd, 6.30

Medi 18 – Morgannwg v Swydd Gaerloyw, Caerdydd, 6.30

Medi 20 – Swydd Gaerwrangon v Morgannwg, Caerwrangon, 1.00