Mae o leiaf dri o bobol wedi cael eu lladd yn India yn dilyn gwrthdaro ynghylch neges Facebook oedd yn sarhau’r proffwyd Mohammed.

Fe ddigwyddodd yn ninas Bengaluru yn ne’r wlad, wrth i’r heddlu wrthdaro â channoedd o Fwslimiaid oedd wedi ymgynnull ac ymosod ar orsaf yr heddlu a rhoi cerbydau ar dân.

Fe wnaethon nhw hefyd ymosod ar gartref gwleidydd yr oedd aelod o’i deulu wedi’i amau o bostio sylwadau’n sarhau’r proffwyd, sydd bellach wedi cael eu dileu.

Dywed yr heddlu fod mwy na 110 o bobol wedi’u harestio yn dilyn y digwyddiad, a bod o leiaf 60 o blismyn wedi’u hanafu.

Bu’n rhaid i’r heddlu danio at y dorf i’w hamddiffyn eu hunain, meddai llefarydd, sydd hefyd wedi cadarnhau bod yr unigolyn oedd yn gyfrifol am y neges ar Facebook wedi cael ei arestio.

Bu’n rhaid i’r heddlu hefyd ddefnyddio cyfraith sy’n atal pobol rhag ymgynnull mewn llefydd cyhoeddus.