Mae menter gymdeithasol sy’n helpu pobol ifanc fregus yng Ngwynedd wedi lansio academi newydd yng Nghaernarfon.

Bwriad yr academi yn hen adeilad banc NatWest yn y dref yw rhoi hwb i oedolion ifanc di-waith a digartref yn dilyn y cyfnod clo.

Bydd modd i bobol ifanc ennill cymwysterau mewn pynciau ymarferol fel hylendid bwyd, lletygarwch ac iechyd a diogelwch.

Eglurodd Sian Tomos, Prif Swyddog Gweithredol Gisda, fod cynlluniau i addasu adeilad y banc, sydd dafliad carreg o ganolfan bresennol Gisda yng Nghaernarfon, wedi bod ar y gweill ers tro ond fod y cynlluniau wedi cael eu cyflymu er mwyn helpu i wrthsefyll y chwalfa economaidd bresennol.

“Bydd y prosiect hwn yn allweddol er mwyn helpu pobol ifanc sydd mewn sefyllfa anodd dros ben i ddod o hyd i waith ac incwm mewn cyfnod o grebachu economaidd gyda’r gwaethaf ers degawdau,” meddai Sian Tomos.

‘Ofni am ddyfodol ein cenhedlaeth iau’

Rheolwr Cymorth a Datblygu Gisda, Lyndsey Thomas sydd yn goruchwylio’r prosiect.

“Rwy’n wirioneddol ofni am ddyfodol ein cenhedlaeth iau ac am bobol ifanc fregus yn benodol,” meddai.

“Bydd y rhai sydd eisoes yn wynebu problemau digartrefedd, diweithdra, ac sy’n cael trafferth efo’u hiechyd meddwl a’u hiechyd corfforol yn cael eu heffeithio yn fwy difrifol nag erioed o’r blaen.

“Wrth i gyllid ffyrlo y llywodraeth ddod i ben, mae’n anochel y bydd llawer yn colli eu swyddi ac yn cael eu gadael heb fawr o incwm.

“Mae hynny’n creu’r perygl y bydd eu hyder a’u lefelau positifrwydd yn disgyn trwy’r llawr.

“Mae’n hanfodol ein bod ni’n cymryd camau rŵan i roi hwb i fyny’r ysgol iddyn nhw a’u cefnogi trwy’r argyfwng hwn.”

Profiad Zack Robinson

Un o’r bobol ifanc sydd wedi elwa o gymorth Gisda yw’r artist ifanc Zack Robinson.

Derbyniodd gymorth ymarferol gan Gisda ar ôl iddo adael gofal yn ei arddegau.

Mae’n pryderu y gallai llawer o’i gyfoedion gael eu gadael ar ôl os na fydd cymorth ar gael i’w helpu trwy’r cyfnod hwn.

“Gobeithio na fyddwn byth yn anghofio’r profiad hwn ac yn cymryd cymaint ag y gallwn ohono,” meddai.

“Rhaid i ni i gyd aros yn gryf a helpu ein gilydd ym mhob ffordd bosib.”

Erbyn hyn mae Zack Robinson yn byw’n annibynnol yng Nghaernarfon, yn gweithio yng Nghaffi Gisda yn y dref, ac yn astudio am radd yn y celfyddydau.

Yn y pen draw, y gobaith yw y bydd Gisda yn gallu recriwtio pobol ifanc sydd wedi derbyn cymorth ganddyn nhw i weithredu fel mentoriaid ar gyfer y rhai sy’n troi at Gisda i gael help.

Ymestyn y cynllun

Mae Sophie Knight, un o swyddogion prosiect y cynllun, yn awyddus i fynd i’r afael â’r stigma sy’n wynebu pobol ifanc yng Ngwynedd.

“Nod y prosiect hwn yw mynd i’r afael â pheth o’r stigma sy’n wynebu pobol ifanc, rhoi cyfle i bobol ifanc gyrraedd eu potensial llawn a’u helpu i godi yn ôl ar eu traed ar ôl cyfnod y pandemig,” meddai.

“Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at yr her o ddechrau prosiect newydd ac at gyfrannu rhywbeth yn ôl i’r gymuned.”

Mae’r cynllun peilot cychwynnol wedi derbyn cymorth ariannol fydd yn cynnal y prosiect tan y gwanwyn.

Mae Gisda yn gobeithio sicrhau cyllid pellach er mwyn ymestyn y cynllun a chreu ail gangen o’r prosiect ym Mlaenau Ffestiniog.