Mae gweinidogion Llywodraeth Prydain yn gwadu bod “dryswch” ynghylch y ffordd y bydd canlyniadau arholiadau TGAU a Safon Uwch yn cael eu mesur eleni.

Fe ddaw ar ôl i’r llywodraeth gyhoeddi newidiadau hwyr neithiwr (nos Fawrth, Awst 12), gan gynnwys y bydd modd i fyfyrwyr ddefnyddio canlyniadau ffug arholiadau er mwyn apelio os ydyn nhw’n anhapus â’u graddau terfynol.

Daw’r cyhoeddiad lai na deuddydd cyn i’r myfyrwyr dderbyn eu canlyniadau Safon Uwch ar ôl i’r arholiadau terfynol gael eu canslo yn sgil y coronafeirws ac ysgolion yn cael eu cau.

Mae myfyrwyr TGAU a Safon Uwch wedi cael sicrwydd ynghylch “clo triphlyg” wrth asesu’r canlyniadau gorau.

Mae’n golygu y gall myfyrwyr naill ai dderbyn eu canlyniadau gorau, apelio er mwyn cael defnyddio canlyniadau eu ffug arholiadau neu sefyll arholiadau eto pan fydd ysgolion yn agor yn yr hydref.

Yn ôl Gavin Williamson, Ysgrifennydd Addysg San Steffan, bydd canlyniadau ffug arholiadau yn gyfwerth â rhagolygon canlyniadau fydd yn cael eu cyhoeddi ddiwedd y mis hwn.