Mae adroddiad newydd yn dangos mai’r degawd diwethaf, rhwng 2010 – 2019, oedd y poethaf ers i gofnodion ddechrau – mae’r cofnodion yn dyddio’n ôl i ganol y 1800au.

Roedd y degawd diwethaf 0.2C yn gynhesach na’r 10 mlynedd flaenorol.

Yn ogystal â hynny mae pob blwyddyn ers 2013 wedi bod yn gynhesach nag unrhyw flynyddoedd blaenorol.

Eglurodd Robert Dunn o’r Swyddfa Dywydd fod y data yn dangos fod yr hinsawdd fyd-eang yn parhau i newid yn gyflym.

“Roedd 2019 yn un o’r tair blynedd gynhesaf orau yn y record hanesyddol yn dyddio’n ôl i 1850″, meddai.

“Mae’r mileniwm hwn wedi bod yn gynhesach nag unrhyw gyfnod tebyg ers y Chwyldro Diwydiannol.

“Mae nifer o ddigwyddiadau eithafol wedi cyfrannu at y cynnydd mewn tymheredd byd-eang – tanau gwair, tonnau gwres a sychder.”

Roedd yr adroddiad, sydd â chyfraniadau gan wyddonwyr hinsawdd o bob cwr o’r byd, gan gynnwys Swyddfa Dywydd y DU, hefyd yn dangos fod tymheredd llynnoedd yn uwch na’r cyfartaleddau.

O ganlyniad i’r newid yn y tymheredd roedd y tymor tyfu cnydau yn hemisffer y gogledd wyth diwrnod yn fwy na’r cyfartaledd, a chofnodwyd bod rhewlifoedd ledled y byd wedi bod yn lleihau bob blwyddyn ers 32 o flynyddoedd.