Mae miloedd o ddisgyblion wedi bod yn derbyn eu canlyniadau Lefel A yng Nghymru bore ma (dydd Iau, Awst 13) – a hynny’n dilyn newid munud olaf i’r drefn.

Cafodd arholiadau eu canslo oherwydd yr argyfwng coronafeirws, ac roedd disgwyl i ddisgyblion derbyn canlyniadau ar sail dau beth – amcan farc athrawon, a thrwy fformiwla arbennig.

Ond mae sustem o’r fath wedi tanio ymateb chwyrn yn yr Alban, a bellach mae gwledydd eraill Prydain wedi newid eu trefniadau rhywfaint.

Mewn datganiad munud olaf brynhawn ddoe, wnaeth Kirsty Williams, Gweinidog Addysg Cymru, gadarnhau na fyddai marciau lefel A disgyblion Cymru yn is na’u marciau Lefel AS.

Daeth y cyhoeddiad yn sgil cyhoeddiadau tebyg yn Lloegr ac yn yr Alban.

Dyfarnu marciau

Roedd Cymwysterau Cymru, y corff rheoleiddio, wedi dyfarnu bod athrawon Cymru wedi bod yn rhy hael yn eu rhagolygon am farciau eu disgyblion, felly dyfeisiwyd sustem lymach o ddyfarnu marciau.

Yn yr Alban daeth eu sustem hwythau dan y lach, gyda llawer yn dadlau ei fod yn rhoi rhai disgyblion dan anfantais – yn benodol disgyblion mewn ysgolion nad yw’n gwneud yn dda fel arfer.

Bellach mae Llywodraeth yr Alban wedi dweud y bydd pob disgybl yn derbyn y marc yr oedd eu hathrawon wedi disgwyl iddyn nhw ei gael.

Yn Lloegr mae disgyblion wedi cael gwybod na fydd eu marciau terfynol yn is na’u marciau yn eu ffug arholiadau.

Bydd disgyblion Lloegr yn medru ailsefyll eu harholiadau yn yr hydref os ydyn nhw’n anhapus â’u marciau – fydd hynny ddim yn bosib i ddisgyblion Cymru.

Derbyn y graddau

Bydd llawer o ddisgyblion Cymru yn medru derbyn eu canlyniadau yn eu hysgolion neu golegau, gyda mesurau pellhau cymdeithasol mewn grym.

Bydd rhai ysgolion yn rhannu’r canlyniadau dros e-byst, neu drwy alwadau ffôn.

Dan y drefn sydd ohoni does dim modd i ddisgyblion apelio yn erbyn y graddau maen nhw wedi ei derbyn oddi wrth eu hysgolion neu golegau.