Mae Joe Biden a Kamala Harris wedi beirniadu Arlywydd yr Unol Daleithiau Donald Trump yn ystod eu hymddangosiad cyntaf gyda’i gilydd.

Mae’r Democrat Joe Biden wedi dewis Seneddwr Califfornia fel ei bartner yn y ras arlywyddol yn erbyn y Gweriniaethwr Donald Trump.

Doedd dim torf i’w hannerch wrth iddyn nhw ymgyrchu gyda’i gilydd am y tro cyntaf oherwydd y coronafeirws, ond bu’r ddau yn hynod feirniadol o arweinyddiaeth Donald Trump wrth fynd i’r afael a’r argyfwng iechyd gwaethaf yn y wlad ers canrif.

Mae mwy na 150,000 o bobol wedi marw yn sgil y coronafeirws a’r pandemig wedi achosi pwysau enbyd ar yr economi.

“Mae’r firws wedi effeithio bron pob gwlad. Ond mae ’na reswm pam ei fod wedi taro America yn waeth nag unrhyw genedl arall,” meddai Kamala Harris.

“Mae hynny oherwydd methiant Trump i gymryd y mater o ddifrif o’r dechrau. Dyma be sy’n digwydd pan dy’n ni’n ethol dyn sydd ddim yn gymwys i wneud y swydd.”

Kamala Harris yw’r ddynes groenddu gyntaf i fod yn rhan o’r ras arlywyddol a hi fyddai’r ddynes groenddu gyntaf i fod yn Ddirprwy Arlywydd yr Unol Daleithiau pe bai Joe Biden yn cael ei ethol.

Daw’r ras arlywyddol hefyd ar adeg pan fo hawliau pobol groenddu dan y chwyddwydr yn dilyn marwolaeth George Floyd dan law’r heddlu ym Minneapolis yn ystod y pandemig.

Mae Donald Trump wedi ymateb drwy alw Kamala Harris yn “ffiaidd” a thynnu sylw at y gwrthdaro rhwng Joe Biden a’r seneddwr y llynedd.

“Roedd hi wedi dweud pethau cas iawn amdano,” meddai Donald Trump. “Dyna pam o’n i’n meddwl ei fod yn gymaint o risg i’w dewis hi. Achos dw i’n siŵr fydd hynny’n cael ei ailchwarae.”