Bydd llefydd yng Nghaerdydd a Phen-y-bont ar Ogwr yn elwa o gynlluniau i gynhesu adeiladau trwy ddulliau gwyrdd.

Mae Cyngor Caerdydd bellach wedi derbyn miliynau o bunnoedd – benthyciad £8.6m gan Lywodraeth Cymru, a grant £6.6m gan Lywodraeth San Steffan – i ddatblygu’r cynllun.

Ac fel rhan o’r ‘rhwydwaith gwres’ yma bydd ‘gwres gwastraff’ o ffatri  ym Mae Caerdydd yn cael ei gyfeirio at adeiladau cyfagos er mwyn eu cynhesu – y bwriad yw ymestyn hyn i ganol y ddinas yn y pendraw.

Dyma fydd y rhwydwaith cyntaf o’i fath yng Nghymru, ac mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig hefyd wedi cyhoeddi y byddan nhw’n cyfrannu arian at gynllun tebyg ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

“Cyfle cyffrous”

“Mae hwn yn gyfle cyffrous i Gaerdydd ddatblygu seilwaith ynni carbon isel newydd, wedi’i bweru gan gyfleuster sydd eisoes yn y ddinas,” meddai Michael Michael, aelod o gabinet Cyngor Caerdydd.

“Mae’r achos busnes yn dangos bod cam cyntaf y rhwydwaith yn ariannol hyfyw, a hoffwn i ddiolch i Lywodraeth Cymru a’r Llywodraeth ganolog am eu cymorth ariannol gyda’r prosiect hwn,” meddai.

Ymhlith yr adeiladau ym Mae Caerdydd a fydd yn elwa o’r rhwydwaith mae Canolfan y Mileniwm, a’r Senedd.