Mae miloedd o fyfyrwyr wedi bod yn derbyn eu canlyniadau Lefel A bore ma (Dydd Iau, Awst 13).
Mae’r canlyniadau’n dangos bod 98.6% o fyfyrwyr wedi derbyn graddau A*-E, cynnydd o 1.0% ers y llynedd.
Roedd cynnydd bach wedi bod yn nifer y rhai sy’n derbyn gradd A* gyda 10.8% o fyfyrwyr wedi derbyn y radd uchaf.
Cafodd 29.9% o fyfyrwyr yng Nghymru graddau A* neu A sy’n gynnydd o 2.9% o’i gymharu a 2019.
Roedd cyfanswm y rhai oedd wedi ceisio am lefel A yn 30,448 – gostyngiad o 3.3% ers y llynedd, sydd yn bennaf oherwydd y gostyngiad yn nifer y boblogaeth sy’n 18 oed.
Roedd mwy o fechgyn na merched wedi derbyn A* ond roedd merched wedi perfformio’n well na bechgyn ym mhob un o’r graddau eraill.
Neges y Gweinidog Addysg
Mae Kirsty Williams wedi rhannu ei “dymuniadau gorau” â disgyblion Cymru, ac wedi cydnabod eu bod wedi “aberthu’n fawr” yn ystod y cyfnod clo.
Mae hefyd wedi pwysleisio unwaith eto na fydd marciau lefel A terfynol yn is na marciau lefel AS.
“Fel y cyhoeddwyd ddoe, rydym wedi gwarantu na all gradd safon uwch derfynol dysgwr fod yn is na gradd Uwch Gyfrannol,” meddai.
“Gall myfyrwyr yng Nghymru, a darpar gyflogwyr a phrifysgolion ledled y Deyrnas Unedig, fod yn sicr bod eich graddau Safon Uwch yn adlewyrchu eich gwaith ac arholiadau a asesir yn allanol.”
Canmol gwaith athrawon
Mae David Evans, Ysgrifennydd Cymru yr Undeb Addysg Cenedlaethol (NEU), wedi llongyfarch y rheiny sydd wedi derbyn y graddau yr oedden nhw eisiau.
Ac mae’r cynnydd yn nifer y graddau A* yn “adlewyrchu’r lefel sylweddol o waith” gan ysgolion ac athrawon yn ystod yr argyfwng, meddai.
Er hynny, mae wedi cynnig beirniadaeth o newid munud olaf y Gweinidog Addysg.
“Mae’r ffaith bod Kirsty Williams wedi gorfod gwneud cyhoeddiad ar yr unfed awr ar ddeg yn cadarnhau y bydd problemau ar lefel yr unigolyn oherwydd proses safoni amherffaith,” meddai.
“Er ei fod yn siomedig y bydd newidiadau i rai graddau yn dod yn hwyr yn y dydd, rydym yn gobeithio bydd cynigion Llywodraeth Cymru – fel yr amlinellir gan y gweinidog – yn sicrhau tegwch i bobol ifanc sydd ar fin derbyn eu graddau.”
Lloegr yn edrych at Gymru
Mae canlyniadau lefel AS disgyblion Cymru wedi bod yn sail i’w canlyniadau lefel A, ond dyw hynny ddim wedi bod yn bosib yn Lloegr – mae lle i ddadlau bod hynny wedi cymhlethu pethau iddyn nhw.
Cafodd arholiadau lefel AS eu gwaredu yn Lloegr gan Michael Gove, rhagflaenydd yr Ysgrifennydd Addysg, Gavin Williamson.
Wrth siarad ar LBC heddiw mae Gavin Williamson wedi gwadu mai camgymeriad oedd cael gwared ar y cymhwyster – er bod awgrym o edifeirwch.
“Na, ddim o gwbl,” meddai. “Byddai wedi bod yn well gen i pe bae ni wedi cael sustem AS – yn debyg i beth sydd ganddyn nhw yng Nghymru heddiw.
“Ond does dim pwynt siarad am beth hoffech chi gael.”