Wrth i filoedd o ddisgyblion dderbyn eu canlyniadau Lefel A yng Nghymru heddiw (dydd Iau, Awst 13) mae nifer wedi beirniadu’r newid munud olaf i’r trefniadau.

Mewn datganiad munud olaf brynhawn ddoe, wnaeth Kirsty Williams, Gweinidog Addysg Cymru, gadarnhau na fyddai marciau lefel A disgyblion Cymru yn is na’u marciau Lefel AS.

Daeth y cyhoeddiad yn sgil cyhoeddiadau tebyg yn Lloegr a’r Alban.

Mae’r canlyniadau’n dangos bod 98.6% o fyfyrwyr wedi derbyn graddau A*-E, cynnydd o 1.0% ers y llynedd.

Mae golwg360 wedi bod yn holi disgyblion am eu canlyniadau a’r helynt fu’n arwain at ddiwrnod y canlyniadau.

“Panig” – Lowri Elen

Mae Lowri Elen yn ddisgybl yn Ysgol Syr Hugh Owen, Caernarfon, sydd wedi derbyn tair A a B yn ei Lefel A. Dywedodd wrth golwg360 ei bod hi methu deall “pam bod y Llywodraeth wedi mynd i banig cwpl o ddyddiau cyn y canlyniadau?”

“Mae’r bobol oedd fod i sefyll arholiadau wedi bod yn poeni am hyn ers mis Mawrth, dw i’n gweld o ychydig yn wirion bod y Llywodraethau ’ma wedi mynd i banig cwpl o ddyddiau cyn diwrnod y canlyniadau.

“Dylai cynllun pendant wedi bod mewn lle.”

Fodd bynnag, dywed Lowri Elen bod llai o fai ar Lywodraeth Cymru oherwydd “unwaith wnaeth yr Alban a Lloegr newid pethau, roedd yn rhaid i Gymru wneud hefyd.

“Rydan ni gyd yn trio am yr un prifysgolion a’r un swyddi felly byddai wedi bod yn annheg cosbi disgyblion yng Nghymru.”

Bydd Lowri Elen nawr yn mynd i astudio Cymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth, ac eisoes wedi qennill ysgoloriaeth y Coleg Cymraeg a Gwobr Teilyngdod Aberystwyth.

“Poen meddwl” – Twm Herd

Mae disgybl yn Ysgol Brynrefail, Llanrug, Twm Herd, wedi dweud wrth golwg360 bod “disgyblion yn sicr wedi gorfod cael mwy o boen meddwl na’r angen.”

Cafodd Twm Herd A* A C D ac mae’n dweud bod disgyblion “heb gael y cyfle i brofi eu hunain.”

“Mae cryn dipyn o bobol dw i’n eu hadnabod wedi cael graddau gwaeth na’r disgwyl ac yn bwriadu apelio,” meddai.

“A gan fod pethau wedi bod yn reit ansicr o ran y system aballu, mae disgyblion yn sicr wedi gorfod cael mwy o boen meddwl na’r angen.”

Ond dywed Twm Herd bod athrawon yn Ysgol Brynrefail wedi bod yn “gefnogol iawn.”

“Roedd ein hathrawon yn gefnogol iawn wrth gyflwyno’r holl opsiynau i ddisgyblion sydd heb wneud cystal â’r disgwyl, clearing prifysgol ac ati.

“Roedd hi’n grêt gallu mynd i mewn a gwybod bod yna gefnogaeth, wnaeth neb adael heb gynllun dw i’m yn meddwl.”

Bydd Twm yn mynd ymlaen i astudio Cymraeg a Cherdd ym Mhrifysgol Bangor fis Medi.

“Ni ddylai’r arholiadau fod wedi cael eu diddymu”

Mae cyn bennaeth Hanes a Chweched Dosbarth wedi dweud wrth golwg360 “na ddylai’r arholiadau fod wedi cael eu diddymu.”

“Byddai’n well pe bai nhw wedi cau gweddill yr ysgol a chynnal arholiadau o dan amgylchiadau covid,” meddai Gareth Cowell.

“Gallant wedi gwneud defnydd o’r ysgol i gyd gan fod yr ysgol yn wag.”

Mae Gareth Cowell hefyd yn teimlo mai ar Weinidog Addysg yr Alban, John Swinney, mai’r bai am yr helynt yn y diwrnodau’n arwain at ddiwrnod y canlyniadau.

“Dw i’n meddwl bod John Swinney wedi cynhyrfu yn yr Alban ac ofn y backlash y gallai wedi wynebu.

“Ac, wrth gwrs, wedyn roedd yn rhaid i Gavin Williamson a Kirsty Williams ymateb yn San Steffan a Chaerdydd.

“O ran Cymru, dw i’n teimlo bod Kirsty Williams wedi gwneud rhywbeth teg, ac a dweud y gwir wyddwn i ddim beth arall y gallai fod wedi ei wneud.”

“Doeddwn i ddim yn poeni’n ormodol” 

 Dywed Lynn Morris, disgybl yn Ysgol Gyfun Aberaeron, nad oedd hi’n “poeni’n ormodol” am y canlyniadau.

“Cefais ganlyniadau da yn fy AS ac felly roeddwn i’n hyderus o gael canlyniadau da,” meddai Lynn Morris, a gafodd bedair A*.

Mae hi hefyd yn teimlo bod y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, wedi “helpu lot” drwy gyhoeddi newidiadau i’r broses o benderfynu graddau ddydd Mercher (Awst 12).

“Roedd cael gwybod nad oedd fy ngraddau’n mynd i fod yn is na chanlyniadau fy AS yn gysur mawr ddoe ac dw i’n meddwl bod Kirsty Williams wedi helpu lot gyda hynna.”

Bydd Lynn Morris nawr yn mynd i astudio Deintyddiaeth ym Mhrifysgol Caerdydd.