Mae angen tanio trafodaeth genedlaethol am gyflwr gofal cymdeithasol yng Nghymru, yn ôl adroddiad newydd gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru.
Mae’r ddogfen yn nodi bod y sector ddibynnol ar lafur di-dâl cyfeillion a pherthnasau – llafur ac sy’n gyfwerth â gwaith cyflogedig gwerth £8bn (sy’n cyfateb i gyllideb flynyddol y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru).
Hefyd mae’r ddarpariaeth gofal ffurfiol yn ddarniog iawn, yn ôl yr adroddiad, gyda dros 1,000 o ddarparwyr yn gweithredu ledled Cymru.
“Mae’n anorfod y bydd yn rhaid i Gymru wario mwy ar ofal cymdeithasol dros y degawd nesaf,” meddai Cian Siôn, un o awduron yr adroddiad.
“Yng ngoleuni hynny, mae’n hen bryd cael trafodaeth genedlaethol am natur y ddarpariaeth gofal ar gyfer y dyfodol, a phwy ddylai dalu amdani.”
Canfyddiadau
Dim ond 9% o lefydd mewn cartrefi gofal sy’n cael eu rhedeg gan gynghorau, ac mae tri chyngor (Torfaen, Powys a Chaerdydd) yn gwbl ddibynnol ar y sector preifat yn hyn o beth.
Mae’r adroddiad hefyd yn tynnu sylw at y ffaith bod llai na hanner y gweithlu gofal personol yng Nghymru yn derbyn Cyflog Byw Gwirioneddol.
Hefyd mae gweithwyr y sector wedi wynebu degawd heb unrhyw welliant cymharol yn eu cyflogau, ac mae 4 o bob 5 gweithiwr gofal yn fenyw.
Edrych at y dyfodol
Mae’r adroddiad yn nodi pedwar mater allweddol y bydd yn rhaid i bolisïau’r dyfodol yng Nghymru fynd i’r afael â nhw:
- lefel yr adnoddau y mae eu hangen i ddarparu gwasanaethau gofal effeithiol
- natur ddarniog y ddarpariaeth ar hyn o bryd
- cyflogau isel a throsiant staff uchel
- a’r anhawster o ran rhagamcanu a chwrdd â’r galw yn y dyfodol