Mae teyrngedau wedi cael eu rhoi i ‘un o gewri’r pulpud’ a fu farw yn 84 oed.

Gwasanaethodd y Parchedig Ddoctor Elfed ap Nefydd Roberts fel gweinidog yn Eglwysi Presbyteraidd Llanelli, Tŵr Gwyn ym Mangor, Capel y Groes Wrecsam a Chapel y Berthen Licswm.

Yn 2008 cafodd ei urddo’n Gymrawd Er Anrhydedd gan Brifysgol Cymru Bangor i gydnabod ei wasanaeth i’r astudiaeth o Ddiwinyddiaeth.

Datganiad ar ran ei deulu:

“Roedd yn awdur ar dros 25 o lyfrau yn y Gymraeg ar grefydd a diwinyddiaeth, yn ddarlledwr poblogaidd a chyson ar y radio a theledu.

“Yn gyn-olygydd ar sawl papur crefyddol gan gynnwys Y Goleuad ac hyd at ei fisoedd olaf yn gyfrannwr rheolaidd. Bydd colled mawr ar ei ôl.”

‘Un o’n gweinidogion amlycaf’

Disgrifiodd Eglwys Bresbyteraidd Cymru’r Parchedig Ddoctor Elfed ap Nefydd Roberts, a oedd yn gyn-brifathro ar ei Coleg Diwinyddol, yn “un o’n gweinidogion amlycaf”.

Mae’n gadael gwraig, Eiddwen, a dau o blant, Jonathan ac Elen Mai o’i briodas gyntaf â Dilys, a fu farw yn 2010.