Bydd y Blaid Geidwadol yn cynnal eu cynhadledd wanwyn Brydeinig yng Nghymru flwyddyn nesa’.

Bydd y gynhadledd yn cael ei chynnal yng Nghasnewydd, ac mae disgwyl y bydd 8,000 yn mynd yno i glywed yr areithiau gan brif ffigyrau’r blaid.

Yn ôl y Ceidwadwyr mi fydd y gynhadledd – yn y Ganolfan Cynadledda Ryngwladol, ar safle’r Celtic Manor – yn rhoi hwb £20m i economi de Cymru.

Bydd y gynhadledd yn cael ei chynnal ar drothwy etholiad y Senedd ym mis Mai.

“Bodloni pobol Cymru”

“Mae’r Ceidwadwyr wedi bodloni pobol Cymru trwy wireddu Brexit, trwy dorri trethi i dros £1.4m o bobol, a thrwy osod rhagor o swyddogion heddlu ar y strydoedd,” meddai Amanda Milling, cyd-Gadeirydd y blaid.

“Mae etholiad flwyddyn nesa’ yn rhoi cyfle i bobol Cymru pleidleisio tros newid yn y Senedd trwy bleidleisio tros y Ceidwadwyr.

“Mae Casnewydd a Chymru gyfan yn rhannau allweddol o’n cynlluniau i wella’r Deyrnas Unedig gyfan, ac mae dd i’r ardal yn dangos ein hymrwymiad i’r dasg.”