Bydd rheolau cyfarfod rhwng ffrindiau a theuluoedd yn cael eu llacio yn hwyrach na’r disgwyl yng Nghymru.
O Awst 22 ymlaen – gan gymryd y bydd sefyllfa’r argyfwng heb waethygu – bydd hyd at bedair aelwyd yn medru ffurfio ‘aelwyd estynedig’.
Dim ond aelodau o’r un aelwyd (neu ‘aelwyd estynedig’) sydd yn medru cwrdd dan do ar hyn o bryd, a dim ond dwy aelwyd sydd yn medru ffurfio ‘aelwyd estynedig’.
Felly bydd y cam yn golygu y bydd mwy o bobol yn medru cwrdd â’i gilydd yn eu cartrefi.
Roedd Mark Drakeford, y Prif Weinidog, wedi awgrymu y gallai’r newid yma gael ei gyflwyno yfory (Awst 15), felly mi fydd yn dod i rym yn hwyrach na’r disgwyl.
Dysgu o wledydd eraill
Mae’r Prif Weinidog wedi tynnu sylw at y ffaith bod y coronafeirws yn dal i beri pryder wrth iddo gyfiawnhau’r penderfyniad.
“Rydym yn dysgu o’r hyn sy’n digwydd ar draws y Deyrnas Unedig ac mae’r achosion newydd sy’n codi gan fwyaf yn deillio o’r ffaith bod pobl yn cyfarfod â phobl eraill yn eu cartrefi,” meddai.
“Dyma pam y mae hi mor bwysig sicrhau nad yw pobl yn gwahodd i’w cartrefi bobl eraill o’r tu allan i’w haelwydydd estynedig.
“Rydym wedi cyflawni cymaint ac mae’n bwysig nad ydym yn peryglu hyn. Golyga hyn nad ydym mewn sefyllfa lle y dylem fod yn ymweld â chartrefi unrhyw un ar unrhyw adeg.”
Newidiadau eraill
Mae Mark Drakeford hefyd wedi cyhoeddi y bydd yn rhaid i bob busnes o’r sector groeso gasglu manylion cyswllt cwsmeriaid er mwyn helpu â’r sustem olrhain a phrofi.
O benwythnos nesa’ ymlaen bydd modd i hyd at 30 o bobol fynd i bryd bwyd yn dilyn priodas, seremoni perthynas sifil, ac angladd.