Mae cynghorydd o Bwllheli’n galw ar Gyngor Gwynedd i wrthod dosbarthu ffurflenni cofrestru etholiadol sy’n gorfodi etholwyr i nodi eu hunain fel ‘Prydeinwyr’ yn hytrach na ‘Chymry’.
Roedd Iwan Edgar, o Gyngor Tref Pwllheli, wedi cysylltu â Chyngor Gwynedd, ar ôl gweld na all alw’i hun yn Gymro wrth gofrestru ar-lein am yr hawl i bleidleisio. Dywed y Cyngor Sir eu bod nhw wedi pwyso ar Lywodraeth Prydain i newid y ddeddf ers bron i bum mlynedd i ganiatáu hyn.
“Does gen i ddim eisiau cael fy ngalw’n Brydeiniwr ar y ffurflenni hyn,” meddai Iwan Edgar wrth Golwg360.
“A’r gwirionedd ydi y dylai Cyngor Gwynedd – sy’n gwrthwynebu hyn – wrthod dosbarthu’r ffurflenni.
“Mae angen i bobol sefyll fyny i hyn – mae’n egwyddor sylfaenol bod pobol yn cael diffinio i hunan fel y dymunwn.”
Etholiad y Senedd y flwyddyn nesaf fydd y tro cyntaf y bydd pobol ifanc 16-17 oed a dinasyddion tramor cymwys i bleidleisio.
Felly, mae awdurdodau wedi rhoi pwyslais ychwanegol eleni er mwyn gwneud yn siŵr bod y grwpiau hyn yn cael eu cynnwys ar y gofrestr etholiadol a ddim yn colli’r cyfle i leisio eu barn ar benderfyniadau sy’n effeithio arnyn nhw.
Ond gan fod cenedligrwydd pobol sydd wedi’u geni yn y Deyrnas Unedig yn cael ei benderfynu gan ddeddf Cenedligrwydd Prydeinig 1981 nid oes hawl gan bobol i nodi eu cenedligrwydd fel ‘Cymro’ neu ‘Gymraes’.
Yn hytrach, mae’n rhaid i bob dinesydd cymwys o Gymru, Yr Alban, Gogledd Iwerddon a Lloegr nodi Cenedligrwydd Prydeinig.
Gwrthod llenwi’r ffurflen
Er bod dirwy o £1,000 am lenwi’r ffurflen yn anghywir, mae Iwan Edgar wedi cydnabod iddo groesi’r opsiwn ‘Prydeinig’ allan ar y ffurflenni papur arferol.
“Dw i wedi bod yn cael ffurflenni papur tan eleni, ac wedi bod yn dileu ‘Prydeiniwr’ ac yn sgwennu ‘Cymro’ yn ei le erioed”, meddai Iwan Edgar.
“Wrth gwrs does dim modd gwneud hyn ar y ffurflen ar lein.”
Mae’r cynghorydd wedi galw ar bobol sydd ddim am gael eu cydnabod fel ‘Prydeiniwr’ i wrthod llenwi’r ffurflen.
Byddai unrhyw un sy’n dewis peidio llenwi’r ffurflen yn absennol o’r gofrestr sy’n caniatáu pobol i bleidleisio mewn etholiad neu refferendwm yn y Deyrnas Unedig.
Cyfrifiad 2001
Mae’r Iwan Edgar wedi cymharu’r sefyllfa i gyfrifiad 2001.
Yng Nghymru cafwyd ymgyrch amlwg a nifer o brotestiadau gan grwpiau ac unigolion am nad oedd Cyfrifiad 2001 yn cynnwys blwch i nodi cenedligrwydd Cymreig.
“I ryw raddau mae’n debyg i beth ddigwyddodd gyda’r cyfrifiad, mi wnes i a sawl person arall wrthod llenwi cyfrifiad yn 2001 – mae ‘na filoedd o Gymry ar goll yn y cyfrifiad hwnnw hyd heddiw”, meddai Iwan Edgar.
Gwrthododd rai miloedd o Gymry lenwi’r ffurflenni am nad oeddent yn barod i ddisgrifio eu hunain fel ‘Prydeinwyr’ – ni chafwyd achosion llys yn eu herbyn gan fod cymaint wedi gwrthod.
‘Hawl sylfaenol i bob unigolyn’
Mae’n fater sydd wedi ei drafod gan Gyngor Gwynedd yn y gorffennol.
Fis Mawrth eleni galwodd y Cynghorydd, Gareth Tudor Morris Jones am newid i ffurflen ‘Ymholiad Aelwyd Blynyddol’ fel bod modd nodi cenedligrwydd Cymreig ar y ffurflen.
“Yn yr unfed ganrif ar hugain, a chyda llywodraeth ein hunain yma yng Nghymru, siawns y gallwn ni gael blwch sy’n rhoi’r dewis i unigolion nodi ei cenedligrwydd. Mae’n hawl sylfaenol i bob unigolyn”, meddai.
Eglurodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd wrth Golwg360 fod Cyngor Gwynedd wedi ysgrifennu at chwip Llywodraeth San Steffan, Comisiynydd yr Arglwydd o Drysorlys ei Mawrhydi ac yr Ysgrifennydd Seneddol yn gofyn am newid i’r ddeddf fis Hydref 2015.
“Ni dderbyniwyd ateb i’r llythyr”, meddai’r llefarydd.
“Codwyd y mater eto yn ystod cyfarfod o Gyngor Gwynedd ym mis Mawrth eleni pryd adroddwyd y byddai’r Cyngor yn dilyn y llythyr hwn i fyny.”
Yn unol â Deddf Cynrychiolaeth y Bobol 1983, mae gofyn i bob awdurdod lleol ddarparu rhestr etholwyr cymwys y sir.
“Yn ystod yr wythnos ddiwethaf, mae Cyngor Gwynedd wedi cysylltu â phawb o fewn y sir sydd wedi cofrestru i dderbyn gohebiaeth electroneg yn gofyn iddynt gadarnhau fod y wybodaeth ar y gofrestr yn gywir.
“Mae’r e-bost yn cysylltu â gwefan ddiogel y cwmni annibynnol sy’n dal y cytundeb gan y cyngor i gasglu a gwirio gwybodaeth ar y gofrestr yn flynyddol.”