Mae cynghorydd o Wynedd wedi galw am roi blwch ‘Cymro/Cymraes’ ar ffurflenni cofrestru i bleidleisio.

Mae’r ffurflen ‘Ymholiad Aelwyd Blynyddol’ yn cael ei hanfon bob blwyddyn, ac at bob cartref, er mwyn gwirio bod pawb sy’n medru pleidleisio wedi’u cynnwys ar y gofrestr etholwyr.

Rhaid nodi llu o fanylion gan gynnwys enwau’r rheiny sydd yn byw yn y tŷ a’u cenedligrwydd, ac ar hyn o bryd dim ond blwch ‘Prydeiniwr’ sydd ar gael i’r Cymry.

Mae bygythiad am ddirwy o £1,000 am lenwi’r ffurflen yn anghywir, a bellach mae’r Cynghorydd, Gareth Tudor Morris Jones, wedi galw am newid i’r drefn.

“Cythruddo yn arw”

“Yn yr unfed ganrif ar hugain, a chyda llywodraeth ein hunain yma yng Nghymru, siawns y gallwn ni gael blwch sy’n rhoi’r dewis i unigolion nodi eu cenedligrwydd,” meddai.

“Mae’n hawl sylfaenol i bob unigolyn. Mae nifer o etholwyr wedi cwyno wrtha i ei bod hi’n hen bryd pwyso am newid.

“Mae’r blwch Prydeinig eisoes wedi ei llenwi’n awtomatig gyda chroes, ffaith sy’n fy nghythruddo i’n arw!”

Llywodraeth San Steffan sy’n gyfrifol am y ffurflenni, a chynghorau sydd yn gyfrifol am eu dosbarthu. Does dim blwch cenedligrwydd i Albanwyr na Gwyddelod chwaith.

Cymry a’r cyfrifiad

Daw’r galw wedi iddo ddod i’r amlwg, yr wythnos hon, y bydd opsiynau ‘Cymro/Cymraes Asiaidd’ a ‘Chymro/Chymraes Du’ yn cael eu cynnwys yng nghyfrifiad 2021.

Roedd y Swyddfa Ystadegau wedi ennyn cryn feirniadaeth am nad oedd yr opsiynau eisoes ar gael, ac mae sawl un wedi croesawu’r newid.