Mae cwmni awyrennau Flybe wedi mynd i’r wal yn ystod oriau mân y bore a phob taith wedi eu canslo.

Mae hyn yn ergyd ddifrifol i Faes Awyr Caerdydd, a oedd ymhlith tua 30 o feysydd awyr llai ledled Prydain i ddibynnu’n helaeth gan y cwmni awyrennau.

Ar ei wefan y bore yma mae’r Maes Awyr yn rhybuddio pobl sydd â thocynnau Flybe i beidio â dod i’r maes awyr gan eu cynghori i chwilio am drefniadau teithio eraill.

Er hynny dywed y bydd y gwasanaeth yn ôl ac ymlaen i Fôn yn parhau fel arfer gydag Eastern Airways, a fydd hefyd yn parhau i hedfan i Teeside ac Aberdeen.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod nhw’n cydweithio’n agos gyda Llywodraeth Prydain a rheolwyr Maes Awyr Caerdydd ar “effaith newyddion Flybe”.

Daw’r newydd ar ôl iddi ddod i’r amlwg fod y maes awyr wedi colli £18.5m y llynedd, a bod Llywodraeth Cymru’n ystyried benthyg £6.8m iddyn nhw.

Coronavirus

Roedd Flybe wedi bod mewn trafferthion ers rhai misoedd, gyda’r cwymp mewn galw yn sgil y coronavirus wedi gwneud sefyllfa ddrwg yn waeth.

Dywedodd Deb Bowen Rees, Prif Weithredwr Maes Awyr Caerdydd eu bod yn “drist iawn” o glywed y cyhoeddiad y bore yma.

“Fel un o gwmnïau awyrennau rhanbarthol mwyaf Prydain, mae Flybe yn brand adnabyddus ledled de Cymru ac wedi cael effaith hynod gadarnhaol ar y maes awyr dros y blynyddoedd diwethaf,” meddai.

“Rydym yn siarad gyda nifer o gwmnïau awyrennau am y cyfle i hedfan yn ôl ac ymlaen i dde Cymru. Yn wyneb newyddion Flybe, byddwn yn canolbwyntio ar y gwasanaethau domestig craidd mae Flybe wedi bod yn eu darparu.”