Mae Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, ymhlith arweinwyr ledled y byd sydd wedi talu teyrnged i ddioddefwyr yr Ail Ryfel Byd i nodi 75 mlwyddiant y diwrnod yr ildiodd Japan yn 1945.

“Ar ôl gorfoledd diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop (VE),  teimlai llawer o filwyr o Gymru a oroesodd y Dwyrain Pell bod y byd wedi anghofio am y ‘Fyddin Angof’,” meddai.

“Roeddynt wedi ymladd mor bell o gartref, heb gysylltiad o gwbl â’u hanwyliaid nac â’u byd cyfarwydd. Ar Ddiwrnod Buddugoliaeth yn Japan (VJ), roedd y rheini oedd yn y Dwyrain Pell yn dal i fod dramor, neu ar fwrdd llong yng nghanol y môr fel Stan Smith o’r Barri, wythnosau neu fisoedd oddi cartref.

“Fe ges i’r fraint o gael siarad â chyn-filwyr oedd wedi bod yn gwasanaethu yn y Dwyrain Pell yn ystod yr Ail Ryfel Byd ar Zoom wythnos ma. Fe fydd storïau byw Walford Hughes a Ted Owens yn aros yn fy nghof am byth, fel y bydd eu cefnogaeth i’w cyd-feteraniaid wrth iddynt geisio ailgydio mewn bywyd ar ôl y rhyfel.”

Gan annog y cyhoedd i gymryd rhan mewn dau funud o dawelwch am 11 o’r gloch fore heddiw, ychwanegodd Mark Drakeford:

“Heddiw, byddwn yn cofio’r 75mlwyddiant hwn ac yn talu teyrnged i bawb yr effeithiwyd arnynt gan y rhyfel yn y Dwyrain Pell a’r Cefnfor Tawel. Aelodau’r lluoedd, eu teuluoedd a sifiliaid o bob rhan o’r byd.

“Rydym yn talu teyrnged i bawb sydd wedi dioddef oherwydd rhyfel, yn ein hamserau rhyfedd ni o dan gysgod y coronafeirws, a fydd yn ddi-os yn effeithio ar ein cynlluniau arferol i goffáu. Ond a ninnau wedi gorfod aberthu a cholli anwyliaid, rydym yn cofio’r rheini 75 mlynedd yn ôl, pan oedd y gwrthdaro mwyaf dinistriol yn hanes y byd yn tynnu i’w derfyn. Aberth a dioddefaint y rheini a agorodd lwybr i’r genhedlaeth a’i dilynodd i weithio at heddwch.

“Rydym yn diolch ichi.  Fe’ch cofiwn, Mewn angof, ni chewch fod.”