Mae degau o filoedd o bobl o Brydain a oedd ar wyliau yn Ffrainc wedi bod yn ceisio dychwelyd adref cyn i’r mesurau cwarantin ddod i rym am 4 o’r gloch y bore yma.
Fe fu rhuthr i brynu tocynnau awyrennau, trenau a llongau a oedd yn cael eu gwerthu am brisiau uwch er mwyn bod yn ôl mewn pryd.
Roedd yn sgil penderfyniad llywodraeth Prydain i osod cwarantin o 14 diwrnod o hunan-ynysu ar deithwyr o Ffrainc yn dilyn cynnydd mewn achosion yn y wlad.
Mae’r un cyfyngiadau wedi cael eu cyflwyno hefyd i deithwyr sy’n dychwelyd o’r Iseldiroedd, Monaco, Malta, ynysoedd Turks a Caicos ac Aruba.
Roedd Eurotunnel Le Shuttle, y gwasanaeth trên sy’n cludo cerbydau trwy dwnel y Sianel, wedi gwerthu pob tocyn ddoe, gyda 12,000 wedi ceisio archebu tocynnau o fewn awr i’r cyfyngiadau Newydd gael eu cyhoeddi am 10pm nos Iau.
Roedd rhai tocynnau awyren chwe gwaith yn ddrutach nag arfer, gyda British Airways yn gwerthu tocynnau o Paris i Heathrow am £452 neithiwr.
Roedd y tocyn un-ffordd rhataf ar drên Eurostar o Paris i Lundain yn costio £210 ddoe.