Ddoe (Awst 14) aeth y Prif Weinidog Mark Drakeford i Eglwys St Thomas yng Nghaerffili i ddiolch i  wirfoddolwyr sydd wedi cefnogi’r rhai mewn angen yn sgil pandemig y coronafeirws.

Sefydlwyd prosiect CARE (Church Assistance Request in an Emergency) fis Mawrth i ddanfon parseli bwyd, siopa a meddyginiaeth, yn ogystal â chynnig cymorth emosiynol i unrhyw un yn yr ardal.

Ers hynny, mae dros 100 o wirfoddolwyr wedi ateb miloedd o alwadau ffôn a danfon miloedd o barseli bwyd.

Roedd y Prif Weinidog yn ymweld â phrosiect CARE wrth i Lywodraeth Cymru lansio cronfa newydd ar gyfer gwasanaethau gwirfoddol.

Bydd y gronfa newydd, y Gronfa Argyfwng ar gyfer Adfer Gwasanaethau Gwirfoddol, yn cymryd lle’r Gronfa Argyfwng Gwasanaethau Gwirfoddol bresennol pan gaiff ei lansio ddydd Llun (Awst 17)

‘Diolch i wirfoddolwyr ledled Cymru’

“Er bod pandemig y coronafeirws wedi bod yn gyfnod anodd i ni gyd, mae ein gwirfoddolwyr yng Nghymru wedi bod yn oleuni yn y tywyllwch”, meddai’r Prif Weinidog Mark Drakeford wrth ymweld a’r Eglwys ddoe.

“Mae hi wedi bod yn fraint dod yma i gwrdd â’r Parchedig Ddeon a’r tîm o wirfoddolwyr.

“Mae prosiect CARE yn fenter ardderchog sy’n llawn pobl gymwynasgar a ymatebodd yn gyflym a gyda chalon gynnes, er yr amgylchiadau heriol.

“Hoffwn ddiolch i bawb yn CARE a’r holl wirfoddolwyr ledled Cymru am y gwaith a’r cymorth amhrisiadwy yr ydych wedi’i ddarparu wrth ymateb i argyfwng y coronafeirws.

“Os ydych yn sefydliad gwirfoddol sydd am barhau i ddarparu cymorth, gwnewch gais i Gronfa Adfer y Gwasanaethau Gwirfoddol.”

‘Syfrdanu’

“Mae’r ymweliad wedi bod yn galondid mawr i’n holl wirfoddolwyr yma”, meddai’r Parchedig Ddeon Aaron Richards.

“Mae tua 100 ohonynt, o bob oed, ac maent wedi bod yn darparu cymorth ymarferol i ardal sy’n cynnwys tua 15,000 o bobl ers mis Mawrth.

“Mae’n rhoi anogaeth wych inni fod y gwahaniaeth y mae ein gwirfoddolwyr yn ei wneud yn cael ei gefnogi gan y Llywodraeth yn lleol ac yn genedlaethol.

“Rydym wedi’n syfrdanu gan gefnogaeth yr ardal leol sydd wedi cyfrannu arian a bwyd, ond hefyd amser ac egni i sicrhau bod pobl yn cael y gofal sydd ei angen arnynt.

“Bydd ein helusen nawr yn rhoi blaenoriaeth i feithrin cadernid yn ein cymunedau a pharhau i gynnig cymorth ymarferol wrth inni addasu ein bywydau i’r normalrwydd newydd yr ydym ar fin ei ddarganfod wrth i’r genedl geisio adfer o’r cyfnod clo.”