Mae Kamala Harris wedi derbyn enwebiad y Democratiaid i fod yn ddarpar is-arlywydd, gan roi addewid y bydd hi a Joe Biden yn adfywio’r Unol Daleithiau yn sgil effeithiau’r pandemig.

Seneddwr Califfornia yw’r ddynes ddu gyntaf i fod ar bapur pleidleisio mewn etholiad arlywyddol ar gyfer rôl darpar is-arlywydd.

Wrth annerch cynhadledd y Democratiaid dywedodd bod ei mam wedi’i hysbrydoli i greu gweledigaeth “o genedl lle mae pawb yn cael eu croesawu, waeth sut ry’n ni’n edrych, o le dy’n ni’n dod, na phwy ry’n ni’n caru.”

“Does dim brechlyn yn erbyn hiliaeth,” meddai. “Mae’n rhaid i ni wneud y gwaith.”

Barack Obama, arlywydd du cynta’r Unol Daleithiau, oedd wedi cyflwyno’r ddynes ddu gyntaf sy’n ymgeisio i fod yn is-arlywydd.

Dywedodd Barack Obama mai Kamala Harris oedd y “partner delfrydol” ar gyfer Joe Biden ac “yn fwy na pharod ar gyfer y swydd.”

Roedd Kamala Harris hefyd cymryd y cyfle i feirniadu Donald Trump gan ddweud bod ei anallu i arwain y wlad “wedi arwain at farwolaethau a phobl yn colli eu bywoliaeth.”