Ynghanol yr ansicrwydd ofnadwy sydd wedi ei achosi gan ganlyniadau Safon Uwch a TGAU eleni, dwi wedi bod yn trio dychmygu sut byddwn i wedi teimlo petai’r sefyllfa wedi codi pan oeddwn i yn yr ysgol, flynyddoedd maith yn ôl.

A dwi’n gwbl sicr y byddwn wedi torri fy nghalon. Ac mae ’nghydymdeimlad yn fawr â phawb fuodd drwy ansicrwydd ac annhegwch eleni.