Algorithms, eh? Dw i ddim hyd yn oed wir yn gwbod beth yw algorithm. Ma fe jyst yn un o’r geirie ’na sydd wedi sleifio mewn i fy lexicon (’na chi un arall!) Dw i wedi bod yn defnyddio fe ers sbel heb sylwi bo fi ddim wir yn deall be’ ma’n ei olygu. ‘Pam ti’n iwso Spotify yn lle Apple Music?’ ‘Ow, ma’r algorithms yn well.’ ‘Odyn nhw?’ ‘Ow yden, deffinet.’ Fel pan o’n i’n blentyn ac yn dadle bod ‘graphics’ y Sega Mega Drive yn well na’r SNES – oni’n hol