Fe ddes i at ddarllen llyfrau yn weddol hwyr yn fy mywyd. Fel person ‘gweledol’ ro’dd well gen i luniau. Rwy’n ei chael hi’n anodd cofio geiriau ag enwau o hyd, er ’mod i’n darllen rhywbeth drwy’r amser, yn y ddwy iaith. Rwy’n cael pleser o ddarllen, ond mae’n well gen i luniau. Rwy’n ‘lunyddol’ rugl.