Yn ôl Wikipedia (ia, dw i’n gwbod nad ydy hwnnw’r ffynhonnell orau) mae addasiad ysblennydd y BBC o nofel Vikram Seth, A Suitable Boy, wedi costio £16 miliwn am 6 pennod. Mae ffilmiau’n cael eu gwneud am lai o arian fesul awr, ond mae’n hawdd gweld lle’r aeth yr arian gyda hwn achos mae Mira Nair, y gyfarwyddwraig (Monsoon Wedding), wedi rhoi’r cwbl ar y sgrîn: mae wedi ei ffilmio ar le