Ychydig yn ôl cefais newyddion a roddodd lam yn fy ngham, ac roedd angen hynny arna i oherwydd rwyf wedi rhoi’r gorau i chwilio am y golau ar ddiwedd y twnnel ac yn canolbwyntio ar ddarganfod y twnnel.

Twnnel llydan neu gul, sdim ots da fi, neith unrhyw dwnnel y tro. Mi ddof a fy ngolau fy hun a’i osod ar ddiwedd y twnnel jest dangoswch blincin twnnel i mi.