Mae’n bosib y bydd cymdeithas yn dal i fod dan glo adeg arholiadau flwyddyn nesa’, a rhaid cadw hynny mewn cof.

Dyna rybuddiodd Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd, mewn cynhadledd i’r wasg ddechrau’r wythnos.

Mae canlyniadau arholiadau wedi bod yn bwnc llosg dros yr wythnos ddiwetha’ yn sgil y smonach.

Defnyddiwyd algorithm i ddyfarnu canlyniadau Lefel A yn wreiddiol, ond daeth tro pedol gan y Llywodraeth ar ddechrau’r wythnos hon wedi i’r mater droi’n danllyd.