A hithau yn gan mlynedd ers geni Harri Webb, yr hanesydd Malcolm Llywelyn sy’n dweud ei bod yn bwysig cofio’r bardd ffraeth a gwladgarol a greodd y gerdd ysgytwol ‘Colli Iaith’…

Yn awdur barddoniaeth, rhyddiaith ac arsylwadau gwleidyddol, fe gafodd Harri Webb ei eni ym mis Medi 1920 yn Sgeti, Abertawe. Gadawodd y ddinas yn ddeunaw oed ar ôl ennill ysgoloriaeth i Goleg Magdalen, Rhydychen, lle y bu yn astudio Ffrangeg, Sbaeneg a Phortiwgaleg.