Mae mwyafrif helaeth o bobol ifanc yr Alban o blaid annibyniaeth, yn ôl arolwg barn diweddar.

Mae’r arolwg gan gwmni arolygon Panelbase yn dangos bod 55% o bobol yr Alban am iddi fod yn wlad annibynnol.

Cafodd y gwaith ei gomisiynu gan felin drafod, Business for Scotland, a bellach mae ei Phrif Weithredwr wedi datgelu rhagor o ganfyddiadau.

Mewn erthygl yn The National Extra mae Gordon MacIntyre-Kemp wedi datgelu bod 72% o bleidleiswyr dan 35 oed yn yr Alban yn cefnogi annibyniaeth.

Er hynny ar ben arall y pegwn dim ond 38% o bobol dros 55 oed sydd eisiau i’r wlad fod yn annibynnol.

Y “ceidwaid olaf”

“Ceidwaid olaf yr undeb yw ei gwendid hi hefyd,” meddai  Gordon MacIntyre-Kemp yn ei erthygl.

“Pe bai Llywodraeth yr Alban yn ymrwymo i godi pensiwn Alban annibynnol i £330… byddai 52% o’r bobol dros 55 oed yn debygol o bleidleisio tros ‘ie’,” meddai.

Mae arolwg Panelbase hefyd yn dangos bod dynion (56%) ychydig yn fwy tebygol o bleidleisio tros annibyniaeth na menywod (53%).