Mae Undeb Rygbi Cymru wedi cadarnhau nad oes rhagor o achosion o’r coronafeirws wedi eu cofnodi ymhlith chwaraewyr rygbi rhanbarthau Cymru.
Daw hyn ar ôl i Jamie Roberts, canolwr y Dreigiau, brofi’n bositif am y feirws ddydd Mawrth (Awst 18) – ddyddiau’n unig cyn i gynghrair y Pro14 ailddechrau.
Dywedodd llefarydd ar ran Undeb Rygbi Cymru fod yr undeb yn parhau i gydweithio’n agos â Iechyd Cyhoeddus Cymru ac na fyddai’r chwaraewr sydd wedi profi’n bositif ar gael i chwarae i’r Dreigiau tra’n hunanynysu.
Mae Undeb Rygbi Cymru wedi cynnal 288 prawf arall yr wythnos hon, gan fynd â chyfanswm nifer y profion i 1,665.
Ailddechrau
Cafodd y Pro14 ei gohirio ym mis Mawrth yn sgil y pandemig, ond bydd yn ailddechrau’r penwythnos yma mewn stadiymau gwag.
Fe fydd y Scarlets yn wynebu’r Gleision ddydd Sadwrn (Awst 22) tra bydd y Gweilch yn herio’r Dreigiau ddydd Sul (Awst 23).