Gallai gêm y Gweilch yn erbyn y Dreigiau’r penwythnos yma gael ei gohirio pe bai rhagor o achosion o’r coronafeirws o fewn carfan y Dreigiau.

Daeth cadarnhad neithiwr (Awst 18) fod Jamie Roberts, canolwr y Dreigiau, wedi profi’n bositif – ddyddiau’n unig cyn i gynghrair y Pro14 ailddechrau.

Mae gweddill carfan y Dreigiau wedi cael eu profi ac mae disgwyl iddyn nhw gael y canlyniadau heddiw (Awst 19).

Dywedodd y Dreigiau nad oes gan Jamie Roberts symptomau, ond cadarnhaodd y rhanbarth na fyddai’r canolwr ar gael i chwarae wrth hunanynysu.

Yn ystod y pandemig, bu Jamie Roberts yn gwirfoddoli gyda Bwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro.

Ddechrau mis Awst, llofnododd Jamie Roberts, sydd wedi ennill 94 o gapiau dros Gymru, gytundeb â’r Dreigiau ar ôl cyfnod yn chwarae i’r Stormers yn Ne Affrica.

Ailddechrau

Cafodd y Pro14 ei gohirio ym mis Mawrth yn sgil y pandemig, ond bydd yn ailddechrau’r penwythnos yma mewn stadiymau gwag.

Fe fydd y Scarlets yn wynebu’r Gleision ddydd Sadwrn (Awst 22) tra bydd y Gweilch yn herio’r Dreigiau ddydd Sul (Awst 23).

Bydd gemau darbi traddodiadol hefyd yn cael eu chwarae yn Yr Alban, Iwerddon a’r Eidal.