Mae’r chwaraewr rygbi, Jamie Roberts, wedi dod adref o Dde Affrica ac wedi gwirfoddoli i helpu’r Gwasanaeth Iechyd i ymladd y coronafeirws.

Fe dderbyniodd Jamie Roberts ei radd meddygol yn 2013 ym Mhrifysgol Caerdydd, ond ers hynny mae wedi bod yn chwarae rygbi rhyngwladol ac, yn fwy diweddar, i’r Stormers yn Ne Affrica.

“Fe ddalion ni’r awyren olaf allan o Dde Affrica ar ôl iddyn nhw fynd mewn i lockdown yno” meddai.

Eglurodd na fydd yn ymwneud â’r broses feddygol ond yn hytrach yn gwirfoddoli ac yn dod yn rhan o’r tîm arloesi.

“Rydw i wedi bod yn eistedd ar y radd feddygol yma ers peth amser a ro’n i’n meddwl pam ddim ceisio helpu yma yng Nghaerdydd?” meddai Jamie Roberts.

“Mae gan y Gwasanaeth Iechyd lawer o gyfleon i weithiwyr medrus a gweithwyr di-grefft i gynnig eu gwasanaeth ac mae’n nhw’n dal i recriwtio ac mae hynny’n neges bwysig i’w chyfleu.”

“Fy rôl i ydi cefnogi pobl ble alla i ac mi fydda i siŵr o fod yn gwneud ychydig o waith cyfathrebu yn y pen draw er mwyn helpu i hyrwyddo’r holl waith da mae pobl yn ei wneud.”