Mae Marnus Labuschagne, batiwr tramor Morgannwg, wedi’i enwi gan Wisden yn un o bump Cricedwr y Flwyddyn.

Simon Jones oedd y chwaraewr diwethaf i dderbyn y wobr tra ei fod e’n chwarae i’r sir, yn 2006, ac yntau’n aelod allweddol o dîm Lloegr a gipiodd y Lludw yr haf cynt.

Roedd 2019 yn flwyddyn anhygoel i’r Awstraliad Labuschagne, wrth iddo gyrraedd 1,000 o rediadau yn y Bencampwriaeth cyn neb arall, ac roedd e’n aelod o dîm Awstralia gadwodd y Lludw drwy guro Lloegr o 2-1 yn y gyfres.

Sgoriodd e bum canred i Forgannwg y tymor diwethaf, a phum hanner canred.

Daeth ei ganred cyntaf yn ei gêm gyntaf i’r sir yn erbyn Swydd Northampton, ac fe sgoriodd e ganred eto yng Nghasnewydd yn erbyn Swydd Gaerloyw yn fuan wedyn.

Daeth ei sgôr gorau erioed, 182, yn erbyn Sussex yn Hove fel rhan o bartneriaeth o 291 gyda Nick Selman, sy’n record i’r sir.

Sgoriodd e ddau ganred yn yr un gêm yn erbyn Swydd Gaerwrangon, y chwaraewr cyntaf i gyflawni’r gamp honno ers i Jonathan Hughes wneud yn 2005.

Erbyn diwedd y tymor, roedd e wedi sgorio cyfanswm o 1,114 o rediadau ar gyfartaledd o fwy na 65.

Y Lludw

Cafodd ei alw’n annisgwyl i dîm Awstralia fel eilydd cyfergyd yn lle Steve Smith yn Lord’s, y tro cyntaf erioed i hynny ddigwydd, ac roedd e’n allweddol wedyn yn llwyddiant yr Awstraliaid wrth ennill y gyfres.

Sgoriodd ei ganred cyntaf dros ei wlad yn erbyn Pacistan fis Tachwedd diwethaf, cyn mynd yn ei flaen i sgorio 185, ei sgôr rhyngwladol gorau erioed, ar ei gae cartref yn Brisbane, cyn sgorio 162 yn Adelaide lle’r oedd e’n un hanner o bartneriaeth o 361 gyda David Warner.

Daeth ei drydydd canred yn olynol yn y prawf nesaf yn erbyn Seland Newydd yn Perth, gan efelychu camp Don Bradman, un o’r chwaraewyr gorau erioed.

Erbyn diwedd y flwyddyn galendr, roedd e wedi sgorio cyfanswm o 2,703 o rediadau rhyngwladol – y mwyaf ers i’w gydwladwr David Hussey sgorio 2,722 yn 2007.

Dechreuodd e’r flwyddyn 2020 gyda chanred dwbwl, ei cyntaf erioed mewn gêm ryngwladol, yn erbyn Seland Newydd.

Cwmni dethol

Dyma restr o gricedwyr Morgannwg sydd wedi ennill y wobr, ynghyd â’r pedwar arall enillodd y wobr yn yr un flwyddyn:

1927 – Jack Mercer (George Geary, Harold Larwood, Bert Oldfield, Bill Woodfull)

1931 – Maurice Turnbull (Don Bradman, Clarrie Grimmett, Beverley Lyon, Ian Peebles)

1969 – Ossie Wheatley (Jimmy Binks, David Green, Barry Richards, Derek Underwood)

1970 – Majid Khan, Don Shepherd (Basil Butcher, Alan Knott, Mike Procter)

1974 – Roy Fredericks (Keith Boyce, Bevan Congdon, Keith Fletcher, Peter Sainsbury)

1978 – Alan Jones (Ian Botham, Mike Hendrick, Ken McEwan, Bob Willis)

1982 – Javed Miandad (Terry Alderman, Allan Border, Richard Hadlee, Rod Marsh)

1991 – Alan Butcher (Mike Atherton, Mohammed Azharuddin, Desmond Haynes, Mark Waugh)

1994 – Steve Watkin (David Boon, Ian Healy, Merv Hughes, Shane Warne)

1998 – Matthew Maynard (Matthew Elliott, Stuart Law, Glenn McGrath, Graham Thorpe)

2006 – Simon Jones (Matthew Hoggard, Ricky Ponting, Brett Lee, Kevin Pietersen)

2020 – Marnus Labuschagne (Jofra Archer, Pat Cummins, Simon Harmer, Ellyse Perry)