Mae hyfforddwr y Llewod Warren Gatland yn awyddus i weld ei dîm yn herio’r crysau duon cyn teithio i Dde Affrica flwyddyn nesaf.

Mae rygbi, fel y rhan fwyaf o chwaraeon, wedi cael ei ohirio yn sgil y pandemig coronafeirws.

Cred Warren Gatland, ddaru hyfforddi’r Llewod mewn cyfers gyfartal yn Seland Newydd yn 2017, yw y byddai cynnal gêm yn eu herbyn yn cynhyrchu arian mewn cyfnod pan fydd ei angen.

Dywed y gŵr 56 oed ei fod wedi crybwyll y peth i Brif Weithredwr Rygbi Seland Newydd Mark Robinson.

“Rwyf wedi trafod gyda Mark Robinson ynglŷn â gem rhwng y Llewod a Seland Newydd,” meddai wrth Sky Sports.

“Mae’n gyfle i gynhyrchu £4 neu £5 miliwn a rhoi ychydig o arian y byddwn wir ei angen i’r neilltu.”

Gadawodd Warren Gatland ei swydd fel prif hyfforddwr Cymru ar ôl eu harwain i rownd gynderfynol Cwpan y Byd llynedd.

Mae bellach yn hyfforddi tîm y Super Rugby, Waikato Chiefs a bydd yn gadael y swydd honno am flwyddyn er mwyn arwain y Llewod ar eu taith yn Ne Affrica.

Bydd prawf cyntaf y Llewod yr erbyn De Affrig yn cael ei gynnal yn Johannesburg ar Orffennaf 24, yr ail brawf yn Cape Town ar Orffennaf 31 a’r prawf olaf yn Johannesburg eto ar Awst 7.