Mae Steve Cooper, rheolwr tîm pêl-droed Abertawe, yn dweud mai at yr Elyrch mae’r clybiau mawr yn troi’n gyntaf os ydyn nhw am anfon chwaraewyr allan ar fenthyg.
Fe wnaeth yr Elyrch fanteisio’n helaeth ar chwaraewyr ifanc o glybiau mawr yr Uwch Gynghrair y tymor diwethaf – gan gynnwys Rhian Brewster o Lerpwl, Conor Gallagher a Marc Guehi o Chelsea a Freddie Woodman o Newcastle.
Roedden nhw’n aelodau o garfan dan 17 Lloegr enillodd Gwpan y Byd o dan reolaeth Cooper, ac fe gafodd hynny ddylanwad yn sicr ar eu penderfyniad i ddod i Gymru.
Mae Woodman eisoes wedi ymrwymo i dymor arall yn y Liberty, ac mae Korey Smith wedi ymuno’n rhad ac am ddim ar ôl gadael Bristol City.
Mae’r Elyrch yn dal i deimlo effeithiau gostwng o Uwch Gynghrair Lloegr, wrth iddyn nhw ddiodde’n ariannol, ac mae hynny’n golygu mai dibynnu ar ddenu chwaraewyr ar fenthyg fyddan nhw am gryn amser eto.
Egluro’r farchnad
Yn ôl Steve Cooper, dylai’r posibilrwydd o ddenu chwaraewyr ar fenthyg gynnig cyfle i wella’r garfan.
“Gyda chwaraewyr â’u cytundebau wedi dod i ben a chyfnodau blaenorol ar fenthyg ar ben, mae hwn yn gyfle i fod yn greadigol a dod â chwaraewyr i mewn sydd wedi cael eu hadnabod gan ein proses recriwtio dan arweiniad Andy Scott,” meddai.
“Mae gyda ni’r syniad yma o wella ac esblygu’r pethau da sy’n digwydd.
“Rydyn ni’n gwybod y bydd rhaid i ni ddefnyddio’r farchnad fenthyg eto.
“Y weledigaeth hirdymor fyddai cynhyrchu ein chwaraewyr ein hunain a chwaraewyr yn llofnodi cytundebau mwy hirdymor ac adeiladu cysondeb.
“Dydyn ni ddim wedi cyrraedd y pwynt yna eto ond ar sail y ffaith fod y benthyciadau wedi mynd yn dda, mae llawer o’r clybiau mawr yn edrych arnon ni ac yn meddwl bod hwn yn lle da i osod eu chwaraewyr.
“Mae hynny’n dda oherwydd rydyn ni’n elwa o hynny o gael y chwaraewyr rydyn ni eu heisiau, a gobeithio bydd hynny’n wir eto.
“Rydyn ni mewn sefyllfa lle mae’r clybiau mawr yn cysylltu â ni’n gyntaf i weld a fyddai diddordeb gyda ni mewn chwaraewr, ac mae hynny’n dangos y gwaith rydyn ni’n ei wneud a bod y ffordd rydyn ni’n chwarae’n cael ei hystyried yn dda i’w chwaraewyr ifanc nhw.
“Dywedodd y bois sydd wedi bod yma gymaint wnaethon nhw fwynhau eu hamser, felly mae hynny wedi bod yn bositif a gobeithio y gall hynny barhau i fod yn wir.”