Mae’r chwaraewr rygbi Jamie Roberts wedi cwestiynu sut y cafodd y wybodaeth am ei brawf coronafeirws positif ei gwneud yn gyhoeddus.

Daeth cadarnhad ddydd Mawrth (Awst 18) ei fod e wedi cael prawf positif a’i fod yn hunanynysu, ac na fyddai ar gael ar gyfer gêm y Dreigiau yn erbyn y Gweilch ddydd Sul (Awst 23).

Roberts yw’r unig chwaraewr yng Nghymru i brofi’n bositif ar gyfer y feirws, a hynny allan o 288 o brofion.

Fe fu’n gweithio fel meddyg yn ystod ymlediad y coronafeirws.

Neges Jamie Roberts

“Gwerthfawrogi’r neges o ran Covid,” meddai Jamie Roberts ar Twitter.

“Teimlo’n iawn. Lot o DIY gartre’.”

“Wrth fy modd fod dim profion positif eraill a bod gemau darbi Cymru’n cael [emoji bawd i fyny].

“Sut gafodd fy ngwybodaeth feddygol gyfrinachol ei chyhoeddi? Sut mae cod ymddygiad y golygyddion yna’n eich trin chi?”