Bydd Caerdydd yn croesawu Sheffield Wednesday i Stadiwm Dinas Caerdydd ar ddiwrnod cynta’r tymor pêl-droed newydd ar Fedi 12, tra bydd Abertawe’n teithio i Preston.

Bydd y gêm ddarbi gyntaf rhwng y ddau glwb Cymreig yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar Ragfyr 12, a’r gêm gyfatebol yn Stadiwm Liberty ar Fawrth 20.

Mae’n 40 mlynedd eleni ers i’r Elyrch godi i’r hen Adran Gyntaf, a bydd eu hymgyrch ddiweddara’n dechrau yn Deepdale, y cae lle cafodd y gêm hanesyddol honno ei chynnal yn 1981.

Birmingham fydd eu gwrthwynebwyr cyntaf yn Stadiwm Liberty, a hynny ar Fedi 19.

Bydd Brentford yn teithio i Gaerdydd ar Ddydd San Steffan, tra bydd yr Elyrch yn teithio i QPR.

Bydd tymor Caerdydd yn gorffen gartref ar Fai 8 yn erbyn Rotherham, tra bydd yr Elyrch yn teithio i Watford.

Gemau Abertawe’n llawn

Gemau Caerdydd yn llawn

Casnewydd

Bydd tymor Casnewydd yn yr Ail Adran yn dechrau gyda thaith i Scunthorpe ar Fedi 12.

Barrow fydd eu gwrthwynebwyr cyntaf yn Rodney Parade ar Fedi 19.

Taith i Crawley fydd ganddyn nhw ar Ddydd San Steffan.

Cheltenham fydd yn teithio i Rodney Parade olaf, a hynny ar Fai 1, cyn i’r Alltudion deithio i Southend i orffen y tymor ar Fai 8.

Ond cyn i’r gynghrair ddechrau, bydd Casnewydd yn croesawu Abertawe yng Nghwpan Carabao ar Fedi 5.