Mae Andrew Balbirnie, capten tîm criced Iwerddon, wedi ymuno â Morgannwg ar gyfer eu hymgyrch ugain pelawd yn y Vitality Blast, sy’n dechrau ar Awst 27.

Bydd y Gwyddel ar gael ar gyfer y gystadleuaeth gyfan, ac mae’n ymuno â’r sir wrth i lai o chwaraewyr tramor fod ar gael oherwydd cyfyngiadau teithio’r coronafeirws.

Mae’r cyfyngiadau’n effeithio ar Colin Ingram, y batiwr sy’n hanu o Dde Affrica oedd i fod i chwarae i’r sir mewn gemau undydd unwaith eto’r tymor hwn cyn i’r tymor gael ei gwtogi.

Ac mae Marnus Labuschagne yn teithio i Loegr gydag Awstralia’n ddiweddarach yn yr haf.

Mae Andrew Balbirnie yn gapten ar Iwerddon ym mhob fformat, ac fe arweiniodd y tîm i fuddugoliaeth dros Loegr yn Southampton yn ddiweddar, gan daro’i chweched canred mewn gemau undydd wrth i’r Gwyddelod gwrso 328 mewn 50 pelawd i ennill.

Mae’n gyn-fyfyriwr yng Nghaerdydd ac wedi chwarae i dîm Prifysgolion Caerdydd yr MCC.

Mae e wedi sgorio dros 2,000 o rediadau mewn gemau undydd rhyngwladol, a daeth ei sgôr gorau erioed, 145 heb fod allan, yn erbyn Affganistan y llynedd.

Mae e hefyd wedi cynrychioli ei wlad mewn 43 o gemau ugain pelawd, gan sgorio 945 o rediadau a phedwar hanner canred.

Roedd e’n aelod o’r tîm Gwyddelig cyntaf erioed i chwarae mewn gêm brawf, a hynny yn erbyn Pacistan yn 2018.

‘Dyfnder ymhlith y batwyr’

“Gyda’r anaf i David Lloyd ac am ei bod yn edrych yn annhebygol y bydd Colin Ingram yn cyrraedd oherwydd y cyfyngiadau teithio, roedden ni eisiau ychwanegu dyfnder ymhlith ein batwyr,” meddai Mark Wallace, Cyfarwyddwr Criced Morgannwg.

“Mae Andrew yn chwaraewr gwych a chanddo record gref yn y fformatau undydd, ac fe wnaeth e berfformio’n wych yn ystod y gyfres ddiweddar yn erbyn Lloegr.

“Mae e hefyd wedi hen arfer â chwarae o dan ein hamodau ni, ac fe fydd e’n dod â chryn brofiad a safon i frig y rhestr fatio.”

‘Dychwelyd i Gymru’

Dywed Andrew Balbirnie ei fod e’n edrych ymlaen at ddychwelyd i Gymru.

“Dw i’n falch iawn o weld y ddêl yn mynd rhagddi,” meddai.

“Mae’n gystadleuaeth arbennig ac ar ôl treulio sawl blwyddyn yng Nghaerdydd yn ystod fy nyddiau yn y brifysgol, mae’n ddinas dw i’n ei hadnabod yn eitha’ da.

“Dw i jyst yn edrych ymlaen at fynd draw a dechrau gyda Morgannwg.

“Mae’n gystadleuaeth dw i wedi’i gwylio dipyn ac mae gyda fi lawer o ffrindiau sydd wedi chwarae ynddi dros y blynyddoedd, felly dw i’n edrych ymlaen at y cyfle i chwarae â phobol newydd a dysgu oddi wrth wahanol hyfforddwyr, yn ogystal â chwarae mewn twrnament gwahanol mewn amodau gwahanol.

“Dyw e ddim wedi bod yn dymor gwych i gael chwarae fawr iawn o griced, felly bydda i’n mwynhau gallu mynd draw i chwarae twrnament bach byr o griced dwys ac mae’n ffordd dda o orffen yr haf.”